Cyflwyniad
Ym 1700 roedd Abertawe’n dref farchnad fach ac roedd arweinwyr Abertawe’n ystyried twristiaeth fel dyfodol y dref. Erbyn 1860 roedd poblogaeth Abertawe wedi cynyddu o tua 2,000 ym 1700 i bron 100,000 erbyn 1900 a chafodd y llysenw “Copropolis”. Beth oedd yr amgylchiadau a arweiniodd at y newid dramatig hwn a beth oedd y canlyniadau ar gyfer y dref, y bobl ac amgylchedd Abertawe.
Bydd y sesiwn yn archwilio sut y daeth Cymru i fod y wlad gyntaf yn y byd i brofi’r Chwyldro Diwydiannol.
Efallai y bydd ysgolion am archwilio’r opsiwn o drefnu taith ar y Copper Jack sy’n cysylltu’n dda â’r thema hon.
Mae disgyblion yn aml yn gyfarwydd â’r Parc Menter, B&Q, Morrisons, Stadiwm Liberty a’r Marina. Yn yr union faes hwn oedd y diwydiannau a fagwyd o’r 1700au ac a drawsnewidiodd gymdeithas yn ystod y 19eg ganrif.
Roedd yr hyn a ddigwyddodd yn Abertawe a Chymru’r un mor bwysig â dyfeisiadau tecstilau Gogledd Lloegr. Roedd copr a thunplat yn yr ardal hon yr un mor bwysig â haearn ym Merthyr a glo yn y Rhondda.
Copper Jack
Gall ysgolion sydd wedi trefnu taith ar y Copper Jack gadw lle ar sesiynau dilynol ar yr un diwrnod ar thema Abertawe a’r Chwyldro Diwydiannol os yw’r ystafell addysg ar gael.
Lefel Cynnydd 3
Ystod oedran darged – Blwyddyn 4 i 6
Hyd y sesiwn – 2 awr
Maes Dysgu:
Dyniaethau
Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig:
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio’n annog chwilfrydedd ynghylch y byd, ei orffennol, y presennol a’r dyfodol.
Mae digwyddiadau a phrofiadau pobl yn gymhleth ac maent yn cael eu hystyried, eu dehongli a’u portreadu mewn ffyrdd gwahanol.
Mae ein byd naturiol yn amrywiol ac yn ddynamig, ac mae prosesau a gweithredoedd dynol yn dylanwadu arno.
Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, a chânt eu siapio gan weithredoedd a chredoau dynol.
Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn ymgysylltu â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu bodau dynol, ac maent yn gallu ymateb mewn ffordd ystyriol a moesegol.
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagweld ffenomena.
Mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol o ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas.
Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd er mwyn goroesi.
Sgiliau Trawsgwricwlaidd:
Creadigrwydd a Blaengaredd
Meddwl yn feirniadol a datrys problemau