Mae archaeoleg Abertawe a Gŵyr wedi bod o ddiddordeb i hynafiaethwyr amatur ers yr unfed ganrif ar bymtheg.
Daeth darganfod olion anifeiliaid yn ogofâu Pen-y-fai (Pafiland) i sylw Lewis Dillwyn, yr Arglwyddes Mary Cole a Miss Talbot o Gastell Pen-rhys, pob un ohonynt yn amaturiaid brwdfrydig a ysgrifennodd at y Parchedig William Buckland, athro archaeoleg ym Mhrifysgol Rhydychen.
Ei ddarganfyddiad ef o olion ‘Menyw Goch Pen-y-fai (Pafiland)’ ym 1823 oedd yr ogof gyntaf a gloddiwyd yn wyddonol ym Mhrydain. Ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, defnyddid dull llawer mwy dadansoddol ym maes archaeoleg.
Mae gwaith sefydliadau megis Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent wedi disodli’r gwaith a wnaed gan unigolion megis Audrey Williams yn yr ugeinfed ganrif.
Roedd agor Sefydliad Brenhinol De Cymru ym 1841 yn lleoliad delfrydol ar gyfer ‘darganfyddiadau’ casglwyr megis y Cyrnol Morgan a George Grant Francis.
Mae adeilad y sefydliad erbyn hyn yn gartref i arteffactau a ganfuwyd yn yr ardal leol, yn ogystal â rhai mor bell i ffwrdd â Gogledd Affrica, oherwydd diddordeb brwdfrydig yr Arglwydd Francis Grenfell o St Thomas mewn Eifftoleg yn ystod ei wasanaeth milwrol.
Mwy o wybodaeth…
Darganfod mwy am hanes Abertawe…Abertawe – braslun o’i hanes