I’r archaeolegwr, os yw’n amatur brwdfrydig, neu’r hanesydd neu’r gwyddonydd, mae Abertawe a Phenrhyn Gŵyr wedi datgelu gorffennol cyfoethog iawn.
O ogofâu esgyrn Gŵyr, sy’n fyd-enwog, er enghraifft ogofâu Pen-y-fai (Pafiland) (yr ogof gyntaf a gloddiwyd yn wyddonol ym Mhrydain), i safleoedd claddu’r Oes Efydd, bryngaerau’r Oes Haearn, ac adeiladau’r Oesoedd Canol yng nghanol y ddinas. Mae pob safle wedi’i ddarganfod a’i gloddio’n ofalus, a’r darganfyddiadau wedi’u cofnodi a’u dehongli i ddatgelu hanes dynol rhyfeddol o esblygiad diwylliannol dyn yn ne-orllewin Cymru.
Mae Amgueddfa Abertawe’n arddangos llinell amser archaeolegol sydd wedi’i chreu o gwmpas arteffactau o bob un o’r cyfnodau hanesyddol hyn. Mae hefyd yn gartref i enghreifftiau archaeolegol o bedwar ban byd, megis yr Eidal, Groeg, Cyprus a Cyrenia yn ogystal â Hor, y mymi hynod ddiddorol o’r Aifft.
Mwy o wybodaeth…
Archaeoleg Ogofâu a’r Cyfnod Pleistosenaidd
Archaeolegwyr, Hynafiaethwyr ac Eifftiolegwyr