Gyda datblygiad Abertawe o borthladd a thref farchnad i ganolfan diwydiant, ymddangosodd dosbarth canol llewyrchus ymhlith y boblogaeth. Yn y cyfuniad o safle diwydiannol o’r radd flaenaf a gofynion newydd y farchnad, datblygodd y diwydiant cerameg a oedd i ddod yn fyd-enwog.
Elwodd Crochendy’r Cambrian, a sefydlwyd yn y ddeunawfed ganrif, o fewnbwn syniadau seiliedig ar strategaethau busnes llwyddiannus Josiah Wedgewood yn ogystal â llif cyson o artistiaid cerameg dawnus iawn. Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y crochendy’n cynhyrchu porslen a heriau Sèvres yn ei safon ac mae’n parhau’n gasgladwy iawn.
Roedd cymydog iddo yn y Strand o’r enw Crochendy Morgannwg, a gynhyrchai, er yn gymharol fach o ran maint, amrywiaeth o gynnyrch o safon dros chwarter canrif na fyddai ond ychydig o grochendai o faint cymharol yn gallu ei gyflawni. Gerllaw yng Nglandŵr, cynhyrchai Crochendy Callands lestri pridd yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mwy o wybodaeth…
Darllenwch fwy am ddiwydiant yn Abertawe… Prosiect Cwm Tawe Isaf