Adlewyrchai Abertawe’r ail ganrif ar bymtheg gynnydd teuluoedd lleol megis y teulu Mansel a’r teulu Mackworth. Roedd entrepreneuriaid Abertawe’r ddeunawfed ganrif wedi gwneud eu harian o weithgareddau busnes mewn mannau eraill, megis Llundain a Chernyw, cyn ymsefydlu yn y dref.
Byddai gan y teuluoedd Dillwyn, Grenfell, Morris a Vivian ran sylweddol yn natblygiad Abertawe yn y dyfodol.
Roedd elfennau megis problemau a oedd yn ymwneud â llygredd mwg copr a chwilio am ddatrysiad wedi golygu bod llawer o’r meistri copr wedi ceisio cymorth gan rai o wyddonwyr gorau’r dydd, megis Michael Faraday a Syr Humphrey Davy.
Cynhyrchodd y cyfnod cyffrous a heriol hwn yn hanes Abertawe wyddonwyr lleol megis William Robert Grove, bargyfreithiwr wrth ei waith, a drodd at wyddoniaeth oherwydd iechyd gwael. Ym 1839, dyfeisiodd y gell Grove, a ddisgrifiwyd yn ‘The Correlation of Physical Forces’ ac a oedd yn rhagflaenydd egwyddor cadwraeth egni.
Mwy o wybodaeth…
Darllenwch fwy am ddiwydiant yn Abertawe…Masnach ac Ehangu