Roedd gan Abertawe gysylltiad â masnach ar hyd y canrifoedd, a hyd yn oed yn oes Elisabeth, roedd glannau Afon Tawe’n llawn glanfeydd llwytho a cheiau.
Datblygwyd cysylltiadau â Llundain, Bryste a Chernyw, ac wrth i Abertawe ddatblygu ei pherfeddwlad ddiwydiannol, lledaenodd y cysylltiadau ymhellach. Cludai llongau copr a Cape Horners lo o Gymru a dychwelyd â mwyn copr o Dde America.
Gyda datblygiad diwydiannol Abertawe, trawsnewidiwyd camlas gyntaf Abertawe a adeiladwyd ym 1784 a, degawd yn ddiweddarach, adeiladwyd Camlas Abertawe a oedd yn ddwy filltir ar bymtheg o hyd. Dyma’r dasg ddiwydiannol fwyaf yr ymgymerwyd â hi yn y ddeunawfed ganrif yn Abertawe.
Ehangwyd y rhwydwaith rheilffyrdd hefyd i fodloni gofynion diwydiant gyda chyfraniad gan Isambard Kingdom Brunel. Adeiladwyd Doc y Gogledd ym 1852, y doc nofiol cyntaf yn Abertawe ac, wedi hynny, bedwar doc arall dros wyth mlynedd a thrigain.
Oherwydd dwysedd diwydiant, roedd angen cyflenwad gweithwyr sylweddol ac angen llety ar bob un. Adeiladodd meistri copr fel y teulu Grenfell dai teras i’w gweithlu, gan ehangu Abertawe i gyfeiriad St Thomas, ac roedd John Morris yn arloeswr ym maes llety uchel gan ddylunio Castell Morris.
Mwy o wybodaeth…
Darllenwch fwy am ddiwydiant yn Abertawe…Amrywiaethu ar Gopr