Bendith gymysg oedd bod yn rhan o’r Chwyldro Diwydiannol i breswylwyr Abertawe. Roedd y gwaith yn galed er bod gan y meistri copr, fel y teuluoedd Vivian a Grenfell, gydwybod cymdeithasol. Disgwylid i fachgen deuddeng mlwydd oed weithio diwrnod o bedair awr ar ddeg. Byddai ffwrneiswyr yn gweithio sifftiau pedair awr ar hugain.
Gwnâi’r gwragedd a’r merched waith annymunol iawn fel casglu wrin o dai cyfagos i lanhau’r platiau copr. Roedd problemau iechyd yn rhemp yn y fath amodau, gyda darfodedigaeth, teiffws, broncitis ac asthma’n endemig. Disgwyliad oes preswylwyr cyfartalog Abertawe ym 1883 oedd pedair blwydd ar hugain.
Yn ogystal, roedd y mwg copr a gynhyrchid gan y broses fwyndoddi’n gollwng mygdarth gwenwynig a oedd yn cynnwys arsenig a swlffwr. Roedd hyn yn gyfrifol am ladd coed a chnydau a gwenwyno tir pori.
Serch hynny, a hwythau’n ymwybodol y byddai gweithlu llythrennog a rhifog yn cynyddu effeithlonrwydd, darparai’r meistri copr ysgolion, ysgolion Sul, ystafelloedd darllen a sefydliadau mecaneg. Datblygodd nifer cymharol o fragdai ochr yn ochr â’r ehangu ar ddiwydiant wrth i’r gweithlu geisio gollyngdod o lafur y dydd.
Mwy o wybodaeth…
Darllenwch fwy am ddiwydiant yn Abertawe… Cerameg