Creodd y dinistr a achoswyd yng Nghwm Tawe Isaf gan ddwysedd y diwydiant a fodolai yno rhwng dechrau’r ddeunawfed ganrif a dechrau’r ugeinfed ganrif yr ardal fwyaf o ddiffeithwch diwydiannol yn Ewrop.
Lansiwyd Prosiect Cwm Tawe Isaf ar ddechrau’r 1960au gyda’r nod o geisio adennill y tir. Dros yr ugain mlynedd nesaf, aeth gwirfoddolwyr, plant ysgol lleol, y Fyddin Diriogaethol – mewn gwirionedd – y gymuned gyfan ati i fod yn rhan o waith adfer y tir.
Mae’r safle bellach yn cynnwys Doc y De, yr Ardal Forol, cyfadeiladau siopa Parc Tawe, cyfadeilad chwaraeon Stadiwm y Morfa, parc diwydiannol y parth menter a llwybr beicio glan yr afon.
Cliriwyd adeiladau adfeiliedig, cadwyd rhai eraill o ddiddordeb hanesyddol a chliriwyd llygryddion o’r tir er mwyn plannu coed. Mae Prosiect Cwm Tawe Isaf wedi bod yn enghraifft unigryw o gydweithredu sydd wedi creu ardal o dir adfer sy’n cael ei ddefnyddio gan y gymuned gyfan.
Mwy o wybodaeth…
Darllenwch fwy am hanes Abertawe… Abertawe – Braslun o’i Hanes