Disgrifiwyd Abertawe fel un o darddleoedd y Chwyldro Diwydiannol. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Abertawe oedd canolfan cynhyrchu tunplat y byd. Roedd yn mwyndoddi 90% o gopr y byd, ac yn y dref hefyd y crëwyd Porslen Abertawe sydd bellach yn cael ei gasglu’n helaeth.
Cyrhaeddodd y dref y statws hwn trwy ddatblygu ei hadnoddau naturiol gan ddefnyddio gwybodaeth ac arian lleol a thrwy ddenu entrepreneuriaid o’r tu allan a oedd yn cydnabod potensial y dref.
Roedd Abertawe a’i chyffiniau yn gorwedd mewn cwm cul a oedd yn gyfoethog mewn gwythiennau glo. Torrai afon Tawe’r cwm yn ddau, a’r afon yn addas ar gyfer llongau a deithiai ar draws y moroedd.
Gyda’r mwyndoddi’n dair rhan o lo ac un rhan o fwyn, roedd agosrwydd y ffynhonnell gyfoethog hon o danwydd mwyngloddio i gloddfeydd metel anfferrus Dyfnaint a Chernyw wedi sicrhau dyfodol Abertawe.
Gyda datblygiad diwydiant daeth systemau trafnidiaeth gwella a thwf trefol. Ond yn ei sgîl hefyd daeth llygredd ar raddfa fawr y mae Abertawe wedi mynd ati’n ddyfal ac yn ddychmygus i gael gwared arno.
Mwy o wybodaeth…