John Dillwyn Llewelyn a’i wraig Emma, adeiladodd y cartref gwyliau yma a’i enwi’n Caswell Cottage.’Bwthyn’ mewn enw’n unig ydoedd, am ei fod yn fwy na phlasty bach.
Roedd treulio gwyliau yn y bwthyn yn golygu y gallai JDL fod yn agos i’r arfordir a oedd yn ei alluogi i arbrofi â ffotograffau o’r môr a ffurfiannau creigiau (a oedd o ddiddordeb i’w gyfaill, Hugh Falconer, paleontolegwr blaenllaw).
Roedd JDL yn gwbl argyhoeddedig y gellid cael lluniau penigamp ar yr arfordir, pe bai’r amgylchiadau’n ffafriol. Ar ôl gweld gwaith John Dillwyn Llewelyn mewn arddangosfa ym 1854, gofynnodd y Tywysog Albert am ddau o’r ffotograffau a dynnwyd yn Caswell.
o.1850