Sefydlwyd Crochendy’r Cambrian ym 1764 gan William Coles.
Ym 1790, dechreuodd John Coles bartneriaeth â George Haynes a gyflwynodd strategaethau busnes newydd yn seiliedig ar syniadau Josiah Wedgwood. Daeth Lewis Weston Dillwyn yn bartner ym 1802 ac yn unig berchennog pan adawodd George Haynes y crochendy ym 1810.
Ym 1811, aeth Dillwyn â T. & J. Bevington i bartneriaeth, gyda’r cwmni wedyn o’r enw Dillwyn & Co. Rhwng 1814 a 1817, cynhyrchai Dillwyn y porslen enwog, ‘Porslen Abertawe’.Bu Lewis Llewelyn Dillwyn (mab L.W.D.) yn rheoli’r crochendy o 1836, a phrynodd y crochendy cyfagos, Crochendy Morgannwg, ym 1838.
Yn eironig, aeth llawer o’r staff a gollodd eu swyddi ymlaen i helpu i sefydlu Crochendy De Cymru yn Llanelli, yr oedd y gystadleuaeth ganddo wedi cyfrannu i ddirywiad y Cambrian yn y pen draw. Ar hyd ei hanes, roedd y Cambrian wedi cyflogi rhai o’r artistiaid gorau megis Thomas Rothwell, Thomas Pardoe a Thomas Baxter.
Caeodd y Crochendy ym 1870 pan werthwyd y safle i Cory, Yeo & Co.