Mae’r dyfrlliw hwn gan Thomas Baxter wedi’i arwyddo a’i ddyddio (‘TB’, ‘July 1818′) ac mae’r teitl ‘Green Hill’ i’w weld yn y gornel chwith ar y gwaelod.
Mae’n anodd dychmygu bod yr olygfa dawel, wledig hon heddiw ger croesffordd brysur Dyfaty, lle mae Heol Caerfyrddin a Heol Castell-nedd yn croestorri. Yn y blaendir, mae’n ymddangos bod llwybrau dwy fenyw sy’n cario’u nwyddau i fyny, newydd groesi y tu allan i dŷ tafarn, lle mae arwyddbost clir sy’n dweud ‘The Upper Lamb’.
Yn y pellter, y tu hwnt i’r caeau lle mae Glandŵr a Brynhyfryd heddiw, gellir gweld Castell Morris, a adeiladwyd ym 1773. Mae golwg yr adeilad hwn sy’n debyg i gaer, yn rhoi camargraff o’i statws unigryw fel y bloc cyntaf o fflatiau pwrpasol i weithwyr ym Mhrydain, cynnyrch meddwl y diwydiannwr, Syr John Morris.
Gellir gweld dwy o’i waliau o hyd wedi’u hamlinellu yn erbyn nenlinell Treforys. O fewn degawd, roedd Greenhill wedi datblygu’n ardal adeiledig, dwys ei phoblogaeth, lle am ganrif gyfan, cafodd gorboblogi a heintiau effaith andwyol ar weithlu Cwm Tawe Isaf.