Paentiwyd y dyfrlliw hwn ar bapur o’r ‘Hen Farchnad, Abertawe’ gan y Parchedig Calvert Richard Jones ym 1830. Mae’n ymddangos ei fod wedi’i ysbrydoli gan ysgythriad gan Stockdale/Storer a gynhyrchwyd ym 1824.
Mae’n bosib bod y dyfrlliw hwn wedi’i greu i gydnabod y farchnad a oedd wedi’i disodli, a agorodd ym 1830 ar dir a roddwyd i Abertawe gan dad yr artist, Calvert Richard Jones.
Mae’r gwaith hefyd yn haeddu’i gymharu â phaentiad John Nixon o Sgwâr Marchnad Abertawe a baentiwyd ym 1799, sydd bellach yn yr Amgueddfa Brydeinig, ac sy’n dangos golygfa debyg sy’n llawer prysurach. Mae’n olwg fanylach, mwy bywiog ac efallai mwy gonest ar fywyd masnachol Abertawe yn y ddeunawfed ganrif.