Mae teitl y llun dyfrlliw hwn, er nad oes llofnod na dyddiad arno, i’w weld yn llawysgrifen Thomas Baxter. Mae’n dangos y tŷ unigryw, ‘Marino’, a adeiladwyd i Edward King a’i wraig, Jane Morris (chwaer John Morris, y diwydiannwr) ym 1784. Roedd Edward King yn gyfrifol am gasglu Tollau Ei Fawrhydi yn Abertawe.
Y pensaer blaengar oedd William Jernegan (1750/1-1836), a gafodd yrfa hir a llwyddiannus yn Abertawe.
Ym 1817, prydleswyd ‘Marino’ gan John Henry Vivian, perchennog Gwaith Copr yr Hafod, a’i brynu yn nes ymlaen, gan wneud mân addasiadau’n unig i ddechrau cyn ariannu cynllun adeiladu mawr a greodd Abaty Singleton o gwmpas y tŷ gwreiddiol.
Mae’r adeilad arddull Gothig hwn a ddechreuodd ei fywyd fel fila forol wythochrog ac a leolwyd er mwyn cael golygfa o Fae Abertawe, bellach yn adeilad gweinyddol Prifysgol Cymru, Abertawe
Gellir gweld tair o’r wyth ochr wreiddiol o hyd. Er bod golwg Baxter o’r tŷ’n dangos llawer o fanylion pensaernïol, nid yw’r wrn addurniadol a oedd ar ben y to ac a wasanaethai fel simnai y gellir ei weld mewn golygfeydd cynharach, wedi’i ddarlunio yma.
Mae’r eitem hon i’w gweld yng Nghwpwrdd yr Hynodion yn Amgueddfa Abertawe