Norton House, y Mwmbwls gyda grŵp o bobl yn y blaendir tua 1850
Adeiladwyd Norton House ym 1790 o garreg Bath, gyda grisiau pren collen Ffrengig a nenfydau wedi’u haddurno’n goeth.
Mae’n bosib mai’r teulu Jefferies yw’r bobl ar y lawnt, pobl a oedd yn perthyn o bell i Gabriel Powell, asiant pwerus Dug Beaufort yn Abertawe, neu’r tenantiaid canlynol, Mr a Mrs Sydney Hall.
Tynnwyd gan John Dillwyn Llewelyn (Abertawe: 1810 – 1882)