Nid oes llofnod na dyddiad ar y dyfrlliw hwn, ond mae ganddo deitl sydd i’w weld yn ysgrifen Baxter ar y cefn.
Adeiladwyd Parc Wern ym 1799-1800. Mae arweinlyfr ar Abertawe a gyhoeddwyd ym 1823 yn cyfeirio at ‘Park Wern, built in a castellated form, the residence of F[rederick] Hickey, Esq., a captain in the Royal Navy’. Roedd Capten Hickey, ffrind i’r teulu Dillwyn, yn byw yn y tŷ o 1817 tan 1840.
Roedd William Henry Smith yn denant yn 1842. Ym 1843, gadawodd Lewis Llewelyn Dillwyn a’i wraig, Elizabeth de la Beche, Burrows Lodge i fyw ym Mharc Wern. Ganwyd eu trydydd plentyn, yr enwog Amy Dillwyn, yno ym 1845. Ym 1853, symudodd y teulu Dillwyn i’w cartref newydd yn Hendrefoelan.
Henry Hussey Vivian oedd preswylydd nesaf y tŷ ger Lôn Brynmill, a bu’n byw ym Mharc Wern tan 1886 pan symudodd y teulu i Abaty Singleton pan fu farw ei fam.
Dychwelodd perchnogaeth Parc Wern i William Graham Vivian, ond roedd yntau eisoes wedi sefydlu cartref yng Nghastell Woodlands, felly bu Parc Wern yn wag am chwe blynedd ar hugain nes i Graham farw ym 1912.
Roedd Parc Wern yn cael ei ddefnyddio fel ysbyty milwrol nes iddo gael ei brynu gan ŵr busnes o Abertawe, Roger Beck, ym 1920, ar ran awdurdod ysbyty’r dref, a daeth yr adeilad yn ysgol hyfforddi nyrsys ym 1922, dan yr enw newydd, Parc Beck. Mae’r adeilad bellach wedi’i newid yn fflatiau moethus.