Mae’r dyfrlliw hwn gan Thomas Baxter yn darlunio amser prysur ar draethau Abertawe, ger y Tŷ Ymdrochi a oedd ar y twyni ac yn edrych allan ar y traeth, safle lle saif pen gorllewinol Neuadd y Sir bellach.
Nod y Tŷ Ymdrochi oedd darparu ar gyfer y bobl gyfoethog ac fe’i prynwyd gan y Gorfforaeth ym 1789.
Roedd eu cyfleusterau’n amrywio o westy, bwyty, neuadd ddawns i sylfaen ar gyfer y peiriannau ymdrochi a welir yma, yn ogystal â darparu baddonau ac ystafelloedd gwisgo. Yn y cefndir gellir gweld Pen y Mwmbwls ac ehangder arfordir Bae Abertawe.
Yn y blaendir, ceir grwpiau o fenywod wedi gwisgo’n ffasiynol yma ac acw, rhai ohonynt â phlant. Yn sefyll i’r chwith o’r grŵp sydd yn y blaen, ac ychydig ar wahân iddo, y mae’r fenyw sy’n ymdrochi a adwaenid hefyd yn ‘drochwr’, a hithau oedd y “…marine emerser to the fair maids of the Swansea flood”. (Andrew Cherry, rheolwr theatr –The Cambrian 5 Medi, 1807)
Byddai’r peiriannau ymdrochi (cabanau pren ar olwynion) yn cael eu tynu i’r dyfroedd bas i fan lle gallai’r ymdrochwr, trwy ysgol fer, fynd i mewn i’r dyfroedd therapiwtig mewn preifatrwydd llwyr.