Mae’r ffotograff hwn yn dangos blaen siop Sidney Heath, y siop adrannol yn Stryd Caer, Abertawe, ar ddechrau’r 1950au.
Defnyddiwyd yr adeilad yn ddiweddarach gan siop Treasure, ac ar hyn o bryd mae’n gartref i Yates Wine Lodge gyferbyn â Sgwâr y Castell
Mae’n un o grŵp o ffotograffau a dynnwyd gan Powell, y ffotograffydd o Abertawe, ar gyfer cwmni dodrefnu siopau a gwaith saer Percy Symmons and Sons, yn ôl pob tebyg fel cofnod o’u gwaith.
Cedwir yr eitem hon yng Nghanolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe yng Nglandŵr, yn y Storfeydd.