Mae’n rhaid bod Thomas Baxter wedi sefyll yn y man lle mae Dynevor Place heddiw (yr enw arno bryd hynny oedd Washing Lake Lane) i ddal yr olygfa hon o The Willows a Mount Pleasant.
Mae’r ehangder panoramig yn cynnwys cartrefi rhai o ddinasyddion mwyaf dylanwadol Abertawe. I’r chwith, saif cartref The Willows, y gellir ei adnabod oherwydd ei ffenestr fwa Sioraidd fawr. Dyma gartref Lewis Weston Dillwyn, perchennog Crochendy’r Cambrian, a chyflogwr Thomas Baxter tan fis Medi 1817.
Ychydig y tu ôl iddo, i’r dde, ceir Windsor Lodge, sy’n sefyll o hyd. Saif y grŵp o dai ar y dde ar safle’r Orsaf Heddlu Ganolog newydd ac mae’n cynnwys The Laurels, cartref teulu’r Grove. Roedd William Robert Grove yn un o aelodau sefydlu Sefydliad Brenhinol De Cymru.
Y tŷ tywyllach uwchben y rhain, i’r dde, yw Mount Pleasant â’i wyneb brics coch. Uwchben hwn, ac i’r chwith, ceir dau blasty pâr. Yn uwch na’r rhain eto, saif Bellevue, ger y man a ddewiswyd ar gyfer yr Ysgol Ramadeg. Er i’r ysgol gael ei sefydlu’n wreiddiol ym 1682, fe’i hailsefydlwyd, a chodwyd adeiladau newydd ar Mount Pleasant rhwng 1851 a 1853.
Mae’n ddiddorol cymharu’r olygfa hon â’r un a ysgythrwyd gan Thomas Rothwell ym 1791 pan dim ond tua hanner y tai a ddarluniwyd gan Baxter oedd wedi’u hadeiladu. Yn y blaendir, mae dwy fenyw yn cyfarch ei gilydd ac mae trydedd yn casglu dŵr o nant ger ymyl y ffordd. Roedd trigolion Abertawe yn dal i ddibynnu ar nentydd fel y rhain hyd yn oed wedi i’r cyflenwadau pibellog cyntaf ymddangos ar ôl 1837.