Tŷ Penllergaer neu Penlle’r-gaer: Roedd Penllergaer yn gartref i’r teulu Price am dros ddau gan mlynedd cyn i’r olaf o’r llinach, Gryffydd Price, adael y tŷ i’w gefnder, John Llewelyn o Ynysygerwn, yn ei ewyllys ym 1783.
Trwy lwybr cymhleth o olyniaeth, byddai’r tŷ’n dod yn gartref i’r ffotograffydd arloesol, John Dillwyn Llewelyn a’i wraig Emma (Talbot gynt).
Mae’r olygfa onglog yma o ffasâd (neu flaen deheuol) y tŷ yn dangos y porth godidog a gafodd ei wydro yn y blynyddoedd wedi hynny.
Gellir gweld rhan fach o’r ardd a rhai taclau garddio sydd wedi’u gosod yn union, a cheir cipolwg hefyd o’r ystafell wydr i’r chwith o’r tŷ. Gwnaeth John ac Emma nifer o newidiadau i’r tŷ a’i diroedd, gan greu “Paradwys Fictoraidd” (Richard Morris).
Tynnwyd gan John Dillwyn Llewelyn (Abertawe: 1810 – 1882) – negatif caloteip 17cm x 21cm o.1850
Coed Penllergaer
Er nad yw’r tŷ’n bodoli mwyach, mae Coed Cwm Penllergaer yn lle y gall pawb ei fwynhau a’i archwilio. Mae’n dirwedd sy’n cael ei hadnewyddu, ei hadfer a’i hadfywio’n raddol gan Ymddiriedolaeth Penllergaer.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect adfer a sut mae bod yn rhan ohono, ewch i:www.penllergare.wordpress.com