Tynnwyd y llun hwn oddeutu 1850 gan John Dillwyn Llewelyn (Abertawe: 1810 – 1882)
Woodlands Castle (Castell Clun): adeiladwyd y tŷ ym 1791 a’i enwi’n ‘Woodlands’. Prynwyd yr ystâd hon ym 1800 gan yr Is-gadfridog George Warde. Ychwanegodd greneliadau at y tŷ a’i ailenwi’n ‘Woodlands Castle’.
O 1859, hwn oedd cartref William Graham Vivian, a oedd yn ei dro wedi’i ailenwi’n ‘Clyne Castle’.
Gerddi Clun sydd ar ei diroedd bellach, sef un o barciau niferus Abertawe. Mae Gerddi Clun yn brydferth iawn ac ar eu gorau yn ystod mis Mai pan fydd sawl rhywogaeth o rododendronau ac asaleâu yn eu blodau.