Safai siop adrannol Sidney Heath yn Stryd Caer, Abertawe, yn y man lle mae Yates Wine Lodge heddiw, gyferbyn â Sgwâr y Castell.
Mae’r ffotograff hwn yn rhan o gasgliad o ffotograffau sy’n dangos llawer o flaenau a dodrefn siopau yn Abertawe ar ddechrau’r 1950au. Fe’u comisiynwyd yn wreiddiol gan Percy Symmons and Sons (Swansea) Ltd., fel enghreiffti
u o’u gwaith saer a dodrefnu siopau.
Heddiw, fodd bynnag, mae’r ffotograff yma’n rhoi cipolwg i ni o’r agweddau mwy ffurfiol ar siopa yn y 1950au, ac awyrgylch mwy ceidwadol y cyfnod.