Tynnwyd y ffotograff hwn yn y 1950au ac mae’n dangos grisiau mewnol siop adrannol Sidney Heath, Stryd Caer, Abertawe.
Mae’r ffotograff yn un o gasgliad a dynnwyd ar gyfer Percy Symmons and Sons (Swansea) Ltd., (cwmni o ddodrefnwyr siopau/seiri) fel enghraifft o’u gwaith.
Mae’r grisiau pren cadarn a’r paneli pren trwm yn y ffotograff yn rhoi ymdeimlad o Glwb Gwŷr Bonheddig preifat iddi, ac mae’n amlygu sut mae’r mathau o siopau a’u golwg, a’r profiad siopa, wedi newid dros yr hanner can mlynedd diwethaf.