Adeiladwyd Rheilffordd y Mwmbwls fel tramffordd ddiwydiannol lle câi’r cerbydau eu tynnu gan geffylau ym 1804-5 a hon, ym 1807, oedd y rheilffordd gyntaf yn y byd i gludo teithwyr yn rheolaidd. Roedd ceffylau’n cael eu defnyddio hyd 1896, ond dechreuwyd defnyddio trenau ager ym 1877. Disodlwyd y trên gan y tram trydan y mae llawer o bobl yn ei gofio, a weithredai o 1929 nes cau’r dramffordd ym 1960.
Mae’r sioe sleidiau isod yn mynd â chi o orsaf i orsaf, gyda lluniau o bob math o ddyddiadau.
Roedd y lein wreiddiol yn ymestyn o Abertawe i Ystumllwynarth. Yn y 1890au fe’i hestynnwyd i Bier y Mwmbwls a oedd newydd ei adeiladu. Roedd canghennau yn Abertawe – i fyny’r Strand ac allan i Bier y Gorllewin, a ger Blackpill i fyny Dyffryn Clun. Newidiodd enwau a safleoedd y gorsafoedd o bryd i’w gilydd – rydym wedi dewis y rhai a oedd yn bodoli yn y 1950au.
Mwy o wybodaeth…
Darganfod mwy am hanes Abertawe…Abertawe – braslun o’i hanes