Roedd y llongau peilot arbennig yn cael eu defnyddio i fynd â’r peilotiaid allan i gwrdd â’r llongau mawr er mwyn eu tywys yn ddiogel i’r porthladd.
Mae Amgueddfa Abertawe’n berchen ar long beilot Olga ac yn ei hwylio ar Fôr Hafren, a gallwch ei gweld ym Marina Abertawe pan nad yw’n hwylio o amgylch Bae Abertawe.
Roedd y llongau mwyn copr yn drwm ac yn swmpus, wedi’u hadeiladu i fod yn gryf nid yn gyflym. Cymry oedd y criwiau gan mwyaf, ond roedd y rhain yn tueddu i ddod o gefn gwlad yn hytrach na’r trefi. Roedd y cyflogau a oedd yn cael eu talu i weithwyr mewn diwydiannau mor uchel fel nad oedd y syniad o ymrwymo i fordaith hir yn un deniadol.
Fodd bynnag, i’r dynion o Benrhyn Gŵyr lle bu prinder tir a gwaith i bawb erioed, roedd apêl y môr yn gryf. Dywedid bod Cape Horners Abertawe ymhlith yr hwylwyr gorau oll; fe’i hystyrir fel geirda am gymeriad llongwyr.
Mae mwy na dau gant o longau wedi cael eu dryllio ar hyd Penrhyn Gŵyr ond, yn ffodus, mae gan Abertawe fad achub ers 1835 pan oedd yn cael ei gadw ar afon Tawe. Ers 1866, mae cysylltiadau agos rhwng y bad achub a phentref y Mwmbwls, sydd yntau’n agos at nodwedd angheuol Traethell Mixon.
Roedd smyglo hefyd yn gyffredin yn yr ardal, y dull o ddewis cymunedau morwrol a oedd am osgoi’r trethi uchel a godir ar nwyddau sylfaenol, megis te.
Mwy o wybodaeth…
Darllenwch fwy am gysylltiad Abertawe â’r môr… paentwyr a ffotograffwyr morol