Rhwng 1780 a 1830 roedd gan Abertawe enw da am fod yn gyrchfan glan môr ffasiynol, gan ddarparu’r holl gyfleusterau a ystyrid yn angenrheidiol ar gyfer cysur yr ymwelydd boneddigaidd. Datblygodd toreth o lety, o dai llety i dafarnau a gwestai.
Roedd cyfleusterau ar gyfer ymdrochi yn y môr yn ogystal â theatrau, gerddi ac ystafelloedd cynnull.
Fodd bynnag, roedd Abertawe mewn penbleth: a ddylai barhau ei bywyd fel cyrchfan ymdrochi ffasiynol neu ddatblygu ei photensial fel safle diwydiannol o bwys byd-eang? Daeth y peiriannwr, James Abernerthy, â’r drafodaeth i ben pan wnaeth gynnig, yn niweddglo ei adroddiad i Ymddiriedolaeth Harbwr Abertawe, adeiladu Doc y De ar safle’r Old Town Reach (neu Burrows), yr ardal foneddigaidd a oedd yn ganolbwynt bywyd cymdeithasol y dref.
Agorwyd Doc y De’n swyddogol ar 23 Medi 1859. Yn eironig, ers dechrau’r dirywiad yn niwydiannau Abertawe yn y 1920au, twristiaeth a dychwelyd i’w bywyd fel cyrchfan poblogaidd sydd wedi llenwi’r bwlch economaidd.
Mwy o wybodaeth…
Darllenwch fwy am gysylltiad Abertawe â’r môr… Pysgota