Adargi du a aned ym 1930 oedd Jac Abertawe. Roedd yn byw yn ardal Doc y Gogledd/Afon Tawe yn Abertawe gyda’i feistr, William Thomas. Byddai Jac bob amser yn ymateb i alwadau am help o’r dŵr. Wnaeth neb adrodd am ei achubiaeth gyntaf, ym mis Mehefin 1931, pan achubodd fachgen 12 oed. Ond ychydig o wythnosau’n ddiweddarach, o flaen torf, achubodd Jac nofiwr o’r dociau. Roedd ei ffotograff wedi ymddangos yn y papur newydd lleol a rhoddodd y cyngor lleol wobr ar ffurf coler arian iddo. Dilynodd nifer o wobrau. Fe yw’r unig gi o hyd a gafodd DDWY fedel efydd (VC y byd cŵn) gan y Gynghrair Genedlaethol Amddiffyn Cŵn. Yn ôl y chwedl, achubodd Jac 27 o bobl yn ystod ei oes. Yn drist, ym 1937, bu farw ar ôl bwyta gwenwyn llygod mawr. Saif ei gofeb, y talwyd amdani gan drefolion Abertawe, ar y promenâd ger maes rygbi San Helen. Yn 2000, enillodd Jac Abertawe deitl ‘Ci’r Ganrif’ gan Newfound Friends o Fryste sy’n hyfforddi technegau achub mewn dŵr i gŵn domestig.
Cedwir yr eitem hon yng Nghanolfan Gasgliadau Amgueddfa Abertawe yng Nglandŵr, yn y Storfeydd.Lleoliad: Abertawe,Cymru
Crëwr/Deiliad: Amgueddfa Abertawe
Rhif yr Amgueddfa : SWASM:SM
Cyfansoddiad: Arian