Roedd llongau copr a Cape Horners yn brwydro’n gyson trwy foroedd tymhestlog i ddod â mwynau’n ôl i Abertawe o bedwar ban byd. Yn eu ffordd eu hunain, roeddent yr un mor bwysig â’r diwydiannau wrth ddatblygu Abertawe’n ganolfan feteleg o safon fyd-eang.
Yn union fel yr oedd y dynion pwysig yn cael eu cofnodi i’r dyfodol gan bortreadwyr mawr y cyfnod, felly roedd y llongau’n cael eu cofnodi gan grŵp bach o artistiaid morol medrus iawn gan gynnwys James Harris yr hynaf, James Harris yr ieuaf ac Edward Duncan.
Roedd artistiaid arbenigol, megis W.H. Yorke o Lerpwl, yn cynhyrchu’r portreadau manwl arddulliedig iawn o longau yr oedd meddwl mawr amdanynt gan berchnogion a meistri. Ond roedd Harris a’r lleill yn portreadu caledi bywyd ar y môr tra bod y Parchedig Calvert Richard Jones, ffotograffydd arloesol, yn defnyddio’r broses galoteip newydd ei datblygu i gofnodi’r llongau a’u criwiau yn Harbwr Abertawe a’i gyffiniau.
Mwy o wybodaeth…
Darllenwch fwy am gysylltiad Abertawe â’r môr… Jack Abertawe