Cyrhaeddodd y fasnach wystrys yn y Mwmbwls ei hanterth rhwng 1850 a 1873. Daethpwyd â deng miliwn o wystrys i’r lan ym 1871, yn werth £50,000. Cychod llydan, agored â hwyl lusg unigol oedd y llongau treillio wystrys gwreiddiol.
Yn ddiweddarach roedd cyteri, a elwid yn sgiffiau ar y pryd, yn cael eu defnyddio gyda chriw o dri: meistr, dyn a llanc. Roedd dwy dreillrwyd o ddyluniad unigryw i’r Mwmbwls yn cael eu hatodi wrth y sgiffiau, gyda llafn finiog i grafu’r wystrys oddi ar y gwaelod a sach bedair troedfedd o led a allai bwyso 508 cilogram pan oedd yn llawn.
Erbyn diwedd y 1920au, canolbwynt diwydiant pysgota Abertawe oedd basn Doc y De lle roedd ceiau helaeth wedi cael eu hadeiladu ar gyfer y treillwyr cefnfor a gyflwynwyd yn Abertawe ym 1901.Erbyn 1928, roedd y llynges dreillwyr yn glanio mwy na 15,000 o dunelli o bysgod y flwyddyn.
Roedd cocos yn cael eu casglu, gan fenywod yn bennaf, gan ddefnyddio sgrafelli a rhacanau i’w cloddio o draeth Llanrhidian pan oedd y llanw ar drai. Yna byddent yn cael eu rhoi mewn rhidyllau, gyda meintiau rhwyll cyfreithiol, cyn cael eu rhoi mewn bagiau i fynd â nhw i’r farchnad. Yn wreiddiol, roeddent yn cael eu rhoi mewn sachau a’u cludo ar gefn asyn i’r blaendraeth. Mae gan gocos o Benclawdd enw da ar draws y byd.
Mwy o wybodaeth…
Darllenwch fwy am gysylltiad Abertawe â’r môr… Dociau a chludiant