Gan fod modd i draffig y môr fordwyo i fyny afon Tawe rhyw dair milltir i faes glo De Cymru, roedd ei glannau’n safleoedd amlwg i sefydlu diwydiant.
Ar ôl sefydlu Ymddiriedolaeth Harbwr Abertawe, roedd yn amlwg y byddai aber afon Tawe hefyd yn cael ei wella, yn enwedig pan gymerodd yr ymddiriedolaeth gyfrifoldeb am weinyddu’r porthladd o Gorfforaeth Abertawe. Cynyddwyd nifer y dociau i gyd-fynd â datblygiad diwydiannol y dref.
Daeth Tywysog a Thywysoges Cymru i Abertawe am y tro cyntaf i agor y doc cyntaf ar ochr ddwyreiniol yr afon ar ddydd Mawrth, 18 Hydref 1881.
Prynwyd camlesi Abertawe a Threwyddfa gan gwmni’r Great Western Railway a adeiladodd reilffordd ar eu glannau wrth iddo geisio cipio’r fasnach broffidiol a fodolai rhwng ardal dra diwydiannol Cwm Tawe isaf a’r porthladd, yr oedd rhan helaeth o hyn yn nwylo cwmni cystadleuol y Midland Railway.
Mwy o wybodaeth…
Darllenwch fwy am gysylltiad Abertawe â’r môr… Llongau a morwyr