Mae gan Abertawe hanes morol diddorol iawn, o ddyddiau ei chei glan afon yn Oes Elizabeth i’w blynyddoedd fel cyrchfan glan mor poblogaidd, pan gâi ymwelwyr ffasiynol dosbarth canol eu denu i’r dref.
O’i phenderfyniad i gyfnewid y ffordd hon o fyw am ran sylweddol yn y Chwyldro Diwydiannol i’r gamp o greu system porthladd a dociau a oedd mor bwysig fel y mentrodd y Luftwaffe ei dinistrio yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae hanes gwerin Abertawe’n dwyn atgof o ddewrder y Cape Horners, y morwyr a gludai glo Cymreig o amgylch y byd yn gyfnewid am fwyn copr i fwydo’r diwydiannau gartref.
Mae hanesion am smyglo a llongddrylliadau wedi cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth ar hyd y blynyddoedd, fel sy’n wir am arwriaeth y rhai a wirfoddolai i fod yn aelodau criw bad achub y Mwmbwls. Mae artistiaid morol a ffotograffwyr arloesol wedi cofnodi’r adegau anhygoel hyn dros y blynyddoedd.
Darllen mwy…
Paentwyr a Ffotograffwyr Morol
Cerdded o gwmpas y Glannau
Mae Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg wedi creu llwybr cerdded o gwmpas ardal SA1 yn Abertawe, sy’n symud o bensaernïaeth Sioraidd Cambrian Place i’r dociau. Gall yr arweiniad eich helpu i ddychmygu datblygiad y dociau a sut gwnaethant drawsnewid Abertawe. Darllenwch yr arweiniad ar-lein i Lannau Abertawe yma.