Roedd trigolion Abertawe, a hwythau’n byw mor agos at borthladd pwysig a ystyrid i fod yn darged i’r gelyn, wedi datblygu mesurau amddiffyn sifil hyd yn oed cyn i’r rhyfel gael ei gyhoeddi.
Roedd yr Adran ARP (Rhagofalon Cyrchoedd Awyr), a sefydlwyd gan y Gorfforaeth, yn cydlynu gwaith y gwasanaethau brys eraill, yn gorfodi llwyrddüwch, yn gosod seirenau ledled y dref, yn atafaelu adeiladau at ddefnydd ARP ac yn cyhoeddi mesurau ARP yn eang.Yn y blynyddoedd cyn y rhyfel, roedd yr heddlu’n cyflawni dyletswyddau brigâd dân Abertawe ond ym 1938 cafodd 500 o swyddogion eu drafftio i ffurfio’r Gwasanaeth Tân Ategol.
Roedd yr heddlu, y gwasanaeth tân a wardeniaid ARP yn derbyn hyfforddiant delio â nwy ac roedd masgiau nwy’n cael eu dosbarthu am ddim i’r boblogaeth gyfan. Roedd ‘helmed’ arbennig ar gyfer babanod hyd yn oed, ac roedd yn ofynnol i bobl gario’u masgiau gyda hwy ar bob adeg. Roedd hefyd gan Abertawe dri bataliwn o Wirfoddolwyr Amddiffyn Lleol, y rhoddwyd enw’r Gwarchodlu Cartref yn ddiweddarach iddynt. Eu rôl oedd amddiffyn yr arfordir a mannau strategol eraill, megis y rheilffordd, rhag ymosodiad a goresgyniad.
Mwy o wybodaeth…
Darllenwch fwy am Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd… Y Ffrynt Cartref