(Bob dydd Mercher yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf)
Cyflwyniad
Cynhelir y sesiwn yn y sied dramiau, rownd y gornel o’r Amgueddfa.
Bydd y plant yn eistedd yn y tram ac yn cwrdd â chymeriad o oddeutu 1900, a fydd yn canu caneuon ac yn dweud wrthynt am ddiwrnod mas i lan y môr, sut y cyrhaeddon nhw yno, gyda phwyslais ar drên y Mwmbwls, y rheilffordd gyntaf yn y byd i gludo teithwyr.
Bydd cyfle hefyd i wisgo i fyny mewn gwisg haf diwedd oes Fictoria/Edwardaidd, ac edrych o gwmpas y delweddau a’r gwrthrychau yn y sied dramiau sy’n gysylltiedig â chludiant yn Abertawe.
Ystod oedran darged – Dosbarth Derbyn/Blwyddyn 1
Hyd y sesiwn – 1.15 awr