Gan Danielle Jenkinson
Swyddog Dogfennaeth
I ddathlu bod Cymru’n cystadlu yng Nghwpan y Byd FIFA 2022, rydym yn mynd i fwrw golwg yn ôl ar yr unig dro arall i Gymru wneud hynny, a siarad am rai o chwaraewyr Cymru o Abertawe a gynrychiolodd eu gwlad, neu a fu bron â gwneud hynny.
Ym 1958, roedd Cymru’n gyfranogwyr annisgwyl yng Nghwpan y Byd yn Sweden. Ar ôl methu ag ennill lle drwy adran Ewropeaidd y gemau, dyfarnwyd ail gyfle i Gymru gystadlu, y tro hwn fel cynrychiolwyr Asia-Affrica. Oherwydd tensiynau gwleidyddol yn ymwneud â Phalesteina a Llain Gaza, gwrthododd timau Arabaidd chwarae yn erbyn Israel am le yn y bencampwriaeth. Penderfynodd FIFA drefnu gêm ar gyfer yr ail oreuon o ranbarthau eraill er mwyn iddynt symud ymlaen drwy gemau rhagbrofol Asia-Affrica. Cymru oedd y tîm a dynnwyd o’r het; enillon nhw’r ddwy gêm yn erbyn Israel, ac felly aethant ymlaen i Sweden.

Ar 18 Ebrill, 1958, cyfarfu dewiswyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn yr Amwythig i benderfynu ar garfan Cwpan y Byd. Roedd saith o’r chwaraewyr yn ddewisiadau amlwg: Jack Kelsey yn y gôl, Mel Hopkins fel cefnwr chwith, y capten Dave Bowen fel hanerwr chwith, Ivor Allchurch fel mewnwr chwith, Cliff Jones fel asgellwr chwith, Terry Medwin, a allai chwarae fel asgellwr de, mewnwr chwith a chanolwr blaen pe byddai angen, a John Charles, y canolwr blaen a oedd yn chwarae dros Juventus. Roedd Kesley, Allchurch, Jones, Medwin a Charles, o Abertawe.
Ganed Jack Kelsey yn Llansamlet a chwaraeodd dros Arsenal. Ef oedd un o gôl-geidwaid gorau Prydain, a hefyd y byd.
Ystyriwyd Ivor Allchurch, a lysenwyd ‘Y Bachgen Euraidd’ – yn rhannol oherwydd ei wallt melyn tonnog – yn un o chwaraewyr o safon fyd-eang, prin, Cymru. Ymunodd Allchurch â’r Elyrch ym 1947 ar ôl iddo gael ei weld yn chwarae pêl-droed ieuenctid pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Plas-marl. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y gynghrair ym 1949 a’r flwyddyn ganlynol roedd yn chwarae dros ei wlad. Oherwydd ei benderfyniad i aros yn Adran 2 gyda’r Elyrch, cafodd lysenw arall, ‘Y seren na lwyddodd yn llwyr’, gan fod llawer yn teimlo’i fod yn gwastraffu’i ddoniau yn y Vetch.
Ganed Cliff Jones i deulu pêl-droed enwog, gan fod ei Dad a’i ewythr wedi chwarae dros Gymru. Magwyd ‘Cliffie’ yn ardal Sandfields, a chwaraeodd yn y gynghrair am y tro cyntaf dros Dref Abertawe ym 1952 pan oedd yn 17 oed. Fodd bynnag, cyrhaeddodd Jones Sweden fel yr asgellwr drutaf ym Mhrydain, gan iddo ymuno â Tottenham y flwyddyn honno am £35,000, y swm mwyaf erioed.
Roedd Ted Medwin yn fab i swyddog carchar, ac fe’i ganwyd gyferbyn â’r Vetch. Pan ymunodd â’i glwb lleol, fe’i disgrifiwyd fel “y bachgen o’r carchar drws nesaf”. Roedd yn olygus, daeth yn boblogaidd gyda’r cefnogwyr a daeth yn fachgen ‘pinyp’ Tref Abertawe yn fuan. Pan ofynnwyd iddo pam ei fod yn meddwl bod cynifer o garfan Cymru yn dod o Abertawe, atebodd Medwin:
“Dwi’n meddwl yr oedd a wnelo hyn gryn dipyn â chael traeth … wrth dyfu i fyny yn Abertawe ar ôl y rhyfel doedd dim llawer i’w wneud os oeddech chi’n ifanc, felly roedd y rhan fwyaf ohonon ni’n chwarae pêl-droed drwy’r dydd ar y traethau. Mewn ffordd, roedd gennym ni ein Copacabana ein hunain.” (Risoli, 1998, t.27)
John Charles oedd y chwaraewr enwocaf ac uchaf ei barch yn y garfan, ac mae’n parhau i fod yn un o’r pêl-droedwyr gorau erioed i ddod o Gymru. Ar ôl gadael yr ysgol ym 1946, ymunodd â Thref Abertawe. Fodd bynnag, cyn iddo allu gwneud ei ymddangosiad hŷn cyntaf yn y Vetch, fe’i gwerthwyd i Leeds United ym 1949. Ym 1957, gan gredu mai ef oedd y canolwr a’r canolwr blaen gorau’r byd, fe’i prynwyd gan Juventus am £67,000, swm a dorrodd bob record. Yn ystod ei dymor cyntaf yn yr Eidal, profodd Charles i fod yn chwaraewr penigamp. Roedd y chwaraewr chwe throedfedd o daldra, a lysenwyd ‘il Buono Gigante’ (y Cawr Addfwyn), wedi gorffen y Serie A fel prif sgoriwr y gynghrair, gyda 28 gôl. Helpodd hyn Juventus i ennill y bencampwriaeth am y tro cyntaf ers chwe blynedd, a llofnododd yntau gytundeb arall â’r clwb am £150,000. Gosododd hyn ef yn y llyfrau hanes fel pêl-droediwr mwyaf gwerthfawr y byd.
Er ei bod hi’n ddewis amlwg i roi John Charles yn y garfan ar gyfer Sweden, roedd hefyd yn golygu cymryd siawns. Juventus oedd yn gyfrifol am ei gyfraniad yng Nghwpan y Byd, a phan ddewiswyd y tîm, nid oedd y clwb wedi rhoi ei ganiatâd eto. Arweiniodd hyn at lawer o drafodaethau gyda’r clwb o ran rhyddhau Charles i chwarae dros Gymru, rhywbeth yr oedd Juventus yn gyndyn o’i wneud. Roedd yn rhoi ei chwaraewr mwyaf gwerthfawr mewn perygl o gael ei anafu mewn gemau na fydden nhw fel clwb yn elwa ohonynt, a thros wlad nad oedd disgwyl iddi wneud yn dda yn y twrnamaint.
Ar y diwrnod hwnnw yn Amwythig, penderfynodd y dewiswyr ar 17 o’r 18 chwaraewr. Roedd gweddill y garfan yn erbyn Sweden yn cynnwys Mel Charles, Stuart Williams, Derrick Sullivan, Trevor Edwards, Colin Webster, Vic Crowe, Roy Vernon, Ken Jones, Ken Leek a Colin Baker. Yn anffodus, ni ddewiswyd brawd Ivor Allchurch, Len Allchurch. Er ei fod yng nghysgod ei frawd hŷn, roedd y chwaraewr Tref Abertawe yn bêl-droediwr da yn ei rinwedd ei hun. Chwaraeodd Mel gyda John yn Leeds ym 1952, ond nid oedd yn teimlo’n gyfforddus yn Swydd Efrog a dychwelodd i Dref Abertawe i chwarae yn eu tîm cyntaf.
Roedd y drafodaeth am y deunawfed dyn yn un torcalonnus. Roedd hi rhwng asgellwr Manchester United, Ken Morgans, a oroesodd drychineb awyr Munich, a Ron Hewitt o Ddinas Caerdydd; dewisodd y dewiswyr Hewitt yn y pen draw. Roeddent wedi bwriadu gwylio Morgans yn rownd derfynol Cwpan yr FA, ond pan gyhoeddwyd nad oedd y chwaraewr 18 oed yn ddigon iach, yn gorfforol nac yn feddyliol, i chwarae; collodd ei gyfle i gynrychioli Cymru.
Morgans, a anwyd yn Abertawe, oedd yr ieuengaf o’r ‘Busby Babes’, grŵp o bêl-droedwyr ifanc a oedd wedi symud ymlaen gyda’i gilydd o dîm ieuenctid Manchester United i’r tîm cyntaf dan reolaeth Matt Busby. Bu farw nifer o’r chwaraewyr ifanc yn nhrychineb awyr Munich ym 1958; Morgans oedd y person olaf i gael ei ddarganfod yn fyw ymysg y malurion. Awgrymodd meddygon y dylai gymryd blwyddyn o seibiant o bêl-droed, ond oherwydd prinder chwaraewyr yn y tîm cyntaf, roedd yn ôl yn chwarae dros United saith wythnos yn ddiweddarach. Mewn cyfweliad, rhannodd ei brofiad o’r cyfnod hwnnw:
“Roeddwn i’n teimlo’n ofnadwy. Roeddwn wedi colli lawer o bwysau. Es i o 11 stôn i 9 stôn. Doeddwn i ddim yn ffit, ond gan nad oedd digon o chwaraewyr roedd yn rhaid i fi chwarae … roeddwn i wedi colli’r cyflymder hwnnw o gwpl o lathenni. O’n i wedi’i golli. Ro’wn i’n gyflym iawn. Gallai cefnwr fod bum llathen o ‘mlaen a byddwn i’n dal i’w faeddu. Ond ar ôl Munich, doeddwn i ddim yn gallu gwneud hynny mwyach. Mewn ffordd, doeddwn i ddim yn synnu fy mod wedi fy ngadael mas o garfan Cwpan y Byd … dwi’n siŵr bod y ddamwain wedi effeithio arna i. Roeddwn i’n cael pennau tost am gwpwl o flynyddoedd. Roeddwn i’n arfer cael hunllefau am y ddamwain a’r chwaraewyr a laddwyd.” (Risoli, 1998, t.32)
Dylid crybwyll hefyd y chwaraewyr a anwyd yn Abertawe, Ray Daniel a Trevor Ford, a ystyriwyd yn ddau o bêl-droedwyr gorau Cymru ar ôl y rhyfel. Fodd bynnag, am resymau gwahanol iawn, diystyriodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru y ddau rhag cynrychioli’u gwlad.
Roedd Daniel yn amddiffynnwr uchel ei barch, ond cafodd ei wahardd rhag chwarae yng Nghwpan y Byd oherwydd iddo gael ei glywed yn diddanu’r tîm gyda chaneuon o’r sioe gerdd Guys and Dolls. Canodd o’r rhestr draciau wrth deithio ar goets y tîm ar ôl iddynt chwarae un o’u gemau rhagbrofol ar gyfer y twrnamaint. Gwylltiodd hyn Herbert Powell, ysgrifennydd crefyddol Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a gredai mai emynau’n unig ddylai gael eu canu gan aelodau’r tîm.
Ym 1956, cyhoeddodd Trevor Ford ei hunangofiant, I Lead The Attack. Roedd yn ddatgeliad ar y taliadau anghyfreithlon gan ei hen glwb, Sunderland, i’w chwaraewyr, gan gynnwys Ford ei hun. Cyfaddefodd y saethwr iddo dderbyn £100 ‘o dan y cownter’ i ymuno â Sunderland o Aston Villla. Gwaharddodd yr FA Ford o bêl-droed y gynghrair am dri thymor. Aeth yn alltud yn yr Iseldiroedd, lle chwaraeodd i PSV Eindhoven.
Yn dechnegol, gallai Ford fod wedi chwarae i Gymru o hyd, ond ni fyddai’r dewiswyr yn goddef rhywun a oedd wedi cyfaddef ei fod wedi derbyn taliadau anghyfreithlon. Ac eto, drwy ei anwybyddu, gwnaeth y detholwyr gamgymeriad. Hebddo, roedd carfan Cymru yn brin o ganolwyr blaen, a byddai’n costio’n ddrud i Gymru. Synnodd Cymru’r byd wrth symud ymlaen o Grŵp 3 ar ôl cael gêm gyfartal gyda Hwngari 1-1, Mecsico 1-1, a Sweden 0-0, ac yna curo Hwngari 2-1 yn rownd derfynol y gemau ail gyfle. Wrth wneud hynny, fe gyrhaeddon nhw’r rownd gogynderfynol, gan wynebu Brasil a phêl-droediwr 17 oed o’r enw Pelé.
Byddai’n rhaid iddynt wynebu’r Brasiliad heb eu swynogl, John Charles. Roedd wedi dioddef heriau cryf iawn gan dîm corfforol Hwngaraidd yn rownd gyntaf y gemau ail gyfle, ac roedd bellach wedi’i anafu. Prin oedd y dewisiadau i gymryd lle Charles, a bu’n rhaid i Colin Webster gymryd y safle ond nid achosodd lawer o drafferth i amddiffyn Brasil yn y gêm dyngedfennol honno. Fodd bynnag, cymerodd bron dri chwarter y gêm i Brasil dorri drwy amddiffyn Cymru, wrth i fflic Pelé fynd ag ef heibio i Mel Charles, a sgoriodd unig gôl y gêm, gan roi terfyn ar freuddwyd Cymru o fynd ymhellach yn y gystadleuaeth.
Os hoffech chi ddarllen rhagor am brofiadau tîm Cymru yn ystod Cwpan y Byd 1958, darllenwch When Pelé Broke Our Hearts Wales & the 1958 World Cup (1998 gan Mario Risoli. Caerdydd: Ashley Drake Publishing), y cyfeiriwyd at rywfaint ohono yma. Mae llawer mwy o ffeithiau diddorol nad oedd modd eu cynnwys yn y blog hwn, ac mae’n llyfr gwych.