Rhodd Newydd
Ym mis Hydref ym 1969, daeth grŵp o bobl ifanc at ei gilydd am ganol nos ym Mharc Singleton. Roeddent yn cymryd rhan mewn taith gerdded elusennol i Borthcawl a fyddai’n cymryd hyd at 8 awr iddynt ei chwblhau. Roedd rhoddwr y crys-t hwn, ynghyd â gweddill y grŵp, yn cerdded i godi arian ar gyfer Oxfam, sef elusen sy’n ymladd yn erbyn tlodi ar draws y byd. Ar flaen y crys mae’r logo ‘Oxfam Walk 69’ ac ar y cefn mae’r slogan y gellir ei gamddeall yn hawdd, ‘Help Stamp out Oxfam’.
Roedd taith gerdded elusennol Abertawe’n rhan o fudiad cerdded ieuenctid cenedlaethol a ddigwyddodd ar draws Prydain. Un o’r teithiau cerdded mwyaf adnabyddus oedd taith gerdded yr haf i Stadiwm Wembley. Dechreuodd 50,000 o bobl ifanc o 12 man gwahanol i wneud taith gerdded elusennol i’r stadiwm, gan gerdded hyd at 30 milltir. Roedd yn ddiwrnod braf ac roedd nifer o’r bobl ifanc yn anghyfarwydd â cherdded pellteroedd hir, felly roedd criw Ambiwlans Sant Ioan yn brysur yn trin blinder gwres a thraed anafedig. Croesawyd y rheini a gyrhaeddodd y stadiwm gyda chyngerdd a oedd yn cynnwys y bandiau Love Affair a Dire Straits.
Mae’r crys-t hwn yn cynrychioli cenhedlaeth newydd a oedd wedi sylweddoli bod gwella’r byd yn dechrau gydag un cam.
A miloedd o gamau eraill ar ôl hynny.