Casgliad Amgueddfa Abertawe
Allwedd cyflwyno addurnol, arian. Arysgrif – presented to the Mayor of Swansea Alderman T. T. Corker JP Feb 3rd 1914. On the occasion of the starting of the YMCA clock. The gift of Messrs Webber and Sons Ltd. Blwch gwreiddiol wedi’i orchuddio â bwcram a’i leinio â melfed.
Roedd yr YMCA yn Herbert Place o 1870 nes iddo symud i safle mwy yn Dynevor Place ym 1882. Fodd bynnag, erbyn 1908 roedd angen adeilad mwy unwaith eto.
Ym 1911, prynwyd Gwesty Longland, a arferai fod yn breswylfa i’r teulu morgludiant Bath. Y syniad cychwynnol oedd trawsnewid yr adeilad, ond ar ryw adeg newidiodd y cynllun a phenderfynwyd ei fwrw i lawr ac adeiladu’r adeilad YMCA a welwn heddiw.
Dechreuwyd ymgyrch codi arian ym 1911 lle byddai aelodau’r YMCA yn ceisio cael ernesau gan bobl dda Abertawe am y gost amcangyfrifedig o £12,000 ar gyfer yr adeilad newydd dros gyfnod o ddeng niwrnod, ac roeddent yn llwyddiannus. Ceir erthygl fanwl am yr ymgyrch yn Swansea History Journal, 2014 cyfrol 21.
Agorodd yr adeilad, dyddiedig 1912 ar y rhagfur, ym mis Hydref 1913. Costiodd £20,000, gan gynnwys y gwaith ailwampio.
Y pensaer a benodwyd oedd Glendinning Moxham, a oedd hefyd yn bensaer Oriel Gelf Glyn Vivian.
Roedd dyluniad yr adeilad yn cynnwys cyfres gymhleth o bwyntiau mynediad a grisiau er mwyn i rannau o’r adeilad gael eu rhannu a’u rhwystro, gan gynnwys yr hostel ar y llawr uchaf a Neuadd Llewelyn ar Page Street.
Mae Adolygiad Cenedlaethol yr YMCA ar gyfer 1913 yn cynnwys y disgrifiad canlynol a ffotograff o’r adeilad heb y cloc.
“Ar y llawr cyntaf mae’r swyddfeydd cyffredinol a phreifat ar gyfer y staff ysgrifenyddol. Mae’r neuadd gyhoeddus fawr yn darparu seddi i bum cant o bobl gyda rhagystafelloedd etc. Neuadd gymdeithasol fawr ac ystafelloedd gemau, biliards a bwyta.
Mae’r ail lawr wedi’i neilltuo i’r ystafelloedd dosbarth a’r llyfrgell, y ceginau ac annedd y gofalwr.
Ar y trydydd llawr mae’r gampfa etc. deunaw ystafell wely, ystafelloedd baddon a thoiledau.
Mae’r to yn wastad ac mae’n cynnig golygfa helaeth dros y dref a’r gymdogaeth gyfagos a bydd yn ategiad defnyddiol i’r adeilad.
Un broblem i’w hwynebu gyda dyluniad yr adeilad oedd cadw pob adran ar wahân ac yn amlwg, ac ar yr un pryd sicrhau bod mynediad i bob adran arall.
Oherwydd hyn roedd angen mynedfeydd a grisiau lluosog, a oedd yn cymryd lle gwerthfawr. Mae’r adeilad cyfan wedi’i adeiladu o ddeunyddiau gwrthsefyll tân, a gwnaed yr holl loriau o haearn a choncrit. Mae’r trefniadau glanweithdra’n gyfoes ac o safon. Mae’r cyfarpar gwresogi ar gyfer dŵr gwasgedd isel, ac mae trydan yn goleuo’r adeilad cyfan. Dewiswyd masnachwyr lleol i wneud y gwaith cymaint â phosib.”
Nid oedd y cloc yn rhan o’r cynllun gwreiddiol ond fe’i hychwanegwyd yn ddiweddarach. Fodd bynnag, ar gyfer cloc o’r maint hwnnw mae angen hyd sylweddol ar gyfer pwysau’r cloc, ac ni roddwyd ystyriaeth i hyn.
Mae cofnod hanes llafar sydd ar gael yn yr amgueddfa (SM 1990.11.8) yn digwydd bod gan fab y pen-gweithiwr a adeiladodd yr YMCA, ac mae’n ymwneud â’r stori a ddywedodd ei dad wrtho.
“Yn ddiweddarach mewn bywyd daeth e’n (ei dad) ddyn eithaf pwysig yn y fasnach adeiladu. Bu’n Glerc Gwaith ar gyfer Oriel Gelf Glyn Vivian. Bu’n goruchwylio’r gwaith o adeiladu’r oriel ac ar un adeg cawsom y cynlluniau adeiladu gwreiddiol, ond fe’u collwyd.
Roedd hefyd yn Glerc Gwaith adeilad yr YMCA, Neuadd Llewellyn, ar waelod Page Street. Arferai dweud yr hanes enwog fod cloc mawr ar gornel uchaf yr adeilad, yn uchel i fyny ar y llawr cyntaf, sy’n dal i fod yno ar y gornel sy’n wynebu St Helen’s Road. A gwnaeth y pensaer ddylunio’r cloc i fynd yn y wal hon ond anghofiodd fod yn rhaid i’r cloc gael pwysau a phendil, anghofiodd bopeth am hynny! Pan wnaethon nhw osod y cloc doedd unman i adael i’r pwysau hongian i lawr oherwydd yn syth islaw’r cloc roedd y ‘Neuadd Fach’ ac nid oedd modd cael pwysau’n gostwng drwy ganol y neuadd, felly roedd yn rhaid iddyn nhw wneud dwythell arbennig gyda phwlïau a phethau i ddargyfeirio’r pwysau o’r cloc o gwmpas gwahanol gorneli i’w cadw nhw i ffwrdd o’r Neuadd! Hyd heddiw, os ydych chi’n edrych i fyny ar y nenfwd fe welwch ddwythell siâp rhyfedd yn mynd ar draws y nenfwd”.
Ar ôl archwilio’r tŵr cloc yn ofalus, nid yw’r esboniad y mae’n ei roi yn gwneud synnwyr i ddechrau. Fodd bynnag, yn dilyn archwiliad manylach, mae’n ymddangos nad yw’r cwndid mewn bocs sy’n rhedeg i lawr y tu mewn i weddlun Page Street, drwy swyddfa bresennol y Prif Weithredwyr ac ystafell gyfarfod 10 ar y llawr isod, yn cuddio trydan a phibellau dŵr fel y byddech wedi’i ddisgwyl, ond pwysau’r cloc.