Ffabrig. Bathodyn clwb pysgod aur ffabrig du yn dangos pysgodyn aur ag adain wen yn hedfan
dros ddwy linell las donnog.
Mae’r Clwb Pysgod Aur yn glwb eithaf unigryw. Mae’r cymhwyster aelodaeth ar y sail eich bod wedi gorfod glanio’ch awyren ar y môr ar ryw adeg ac wedi goroesi i adrodd yr hanes. Roedd y bathodyn ynghyd â cherdyn aelodaeth yn perthyn i’r Awyr-ringyll Marcus Arthur Harris a aned yn Nhreboeth, Abertawe ym 1913 ac a ymunodd â’r Awyrlu Brenhinol ym 1940, yn 27 oed. Dechreuodd ei yrfa hedfan yng nghanolbarth Cymru, yn halio targedau ar gyfer hyfforddiant gynwyr gwrthawyrennol. Rhaid bod criwiau gynnau yr oedd gynnau gwrthawyrennol yn newydd iddynt, wedi wynebu risg sylweddol. Rhwng mis Mehefin a mis Tachwedd 1944, hedfanodd sawl cyrch dros Ewrop fel Gweithredwr Radio a Gynnwr Awyr mewn awyrennau bomio trwm yr Handley Page Halifax Mk.II a III gyda sgwadron 158. Rhwng mis Chwefror a mis Tachwedd 1945 trosglwyddodd i Sgwadron 96 a hedfanodd gydag awyrennau bomio Halifax yn ymgyrch Burma. Daw’r bathodyn hefyd gyda’i gerdyn aelodaeth sy’n cofnodi iddo gael ei orfodi i lanio ar y môr a defnyddio’i dingi argyfwng ar 8 Mawrth 1944.