Casgliad Amgueddfa Abertawe
Dogfen, Deddf Gwasanaeth Milwrol (y Lluoedd Arfog) 1939. Dogfennau personol Mr Thomas William Howells. Llythyr oddi wrth y Weinyddiaeth Lafur a Gwasanaeth Milwrol Roedd yn ofynnol i’w gyflwyno ar gyfer archwiliad meddygol, 24 Tachwedd 1939 Adeiladau’r YMCA, St Helen’s Road, Abertawe.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd yr adeilad ei gymryd drosodd yn gyfan gwbl i’w ddefnyddio fel ysbyty. Yn yr Ail Ryfel Byd, roedd llawer o’r adeilad hefyd yn cael ei ddefnyddio gan y fyddin a’r Weinyddiaeth Lafur.
Roedd swyddfeydd recriwtio yn yr adeilad ar gyfer y gwahanol luoedd arfog. Wrth dderbyn eich papurau galw i’r fyddin, roedd angen mynd i YMCA Abertawe er mwyn cael eich archwiliad meddygol a’ch prosesu. Byddai cenhedlaeth gyfan o ddynion ifanc yn Abertawe wedi ymweld â’r adeilad ar gyfer eu harchwiliad meddygol gan gynnwys y prawf ‘gollwng a pheswch’. Mewn gwirionedd, hyd yn oed ar ôl y rhyfel roedd yr adeilad yn dal i gael ei ddefnyddio ar gyfer prosesu galwadau ac archwiliadau meddygol ar gyfer Gwasanaeth Milwrol tan oddeutu 1948.
Mae Amgueddfa Abertawe yn parhau i gasglu gwrthrychau i gofnodi hanes a threftadaeth Abertawe a’i phobl. Mae’r polisi casglu’n eithaf llym, rhaid i’r gwrthrych fod yn gysylltiedig ag Abertawe ac mae ganddo stori i’w hadrodd os yn bosib. Mae’r Ail Ryfel Byd yn parhau i fod yn gyfnod o ddiddordeb mawr. Mae gan yr amgueddfa gasgliad sylweddol o wrthrychau o’r Ail Ryfel Byd ac yn aml iawn dechreuodd stori’r gwrthrych hwnnw yn y YMCA.