Casgliad Amgueddfa Abertawe
Llyfr ymarfer a ddefnyddiwyd fel dyddiadur, gorchuddion papur glas, papur llinellau gwyn. Dyddiadur y dyn o Abertawe, John Healy, tra bu’n garcharor rhyfel yn yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae label blaen y clawr yn darllen ‘Sgt John Healy, 1837362 POW Barth Stalag Luft 1 7610 Germany’. Roedd yr Awyr-ringyll John Healy (1922-2018) yn yr Awyrlu Brenhinol o 27 Rhagfyr 1943 i 5 Mawrth 1947. Ymunodd John â’r gwasanaeth fel gynnwr cefn gan hedfan awyrennau bomio Lancaster gyda Sgwadron 90 yr Awyrlu Brenhinol Fe’i saethwyd i lawr ym mis Ionawr 1945, ei gipio yn Mutterstadt, yr Almaen a’i gaethiwo yn Stalagluft 1, gwersyll carcharorion rhyfel yn Barth, Gogledd yr Almaen tan fis Mai 1945 pan gafodd ei ryddhau ar ôl i’w warchodwyr Almaenig ffoi. Yn y dyddiadur a gadwodd pan oedd yn y gwersyll, ysgrifennodd am brydau yr oedd yn gobeithio’u cael pan gâi ei ryddhau. Ysgrifennodd John yn ei ddyddiadur rai o’r prydau yr oedd yn dyheu amdanynt pan fyddai’n dychwelyd adref- ffagots a phys- lympiau o gaws gyda digon o fara a menyn a phaned o de! Ar glawr y llyfr mae’r geiriau YMCA Sweden.
Tra bod YMCA Abertawe yn weithgar gartref fel yr amlygwyd ym Mlog 7, roeddent hefyd yn cefnogi milwyr ar flaen y gad. Anfonwyd llawer o unedau symudol dramor i gefnogi milwyr. I ddechrau, collwyd llawer ohonynt yn Ffrainc yn gynnar yn y rhyfel gyda’r enciliad o Dunkirk. Yn ddiweddarach, anfonwyd uned symudol arall y talwyd amdani gan YMCA Abertawe i Ogledd Affrica.
Roedd gwasanaethau eraill ar gyfer milwyr tramor yn cynnwys trefnu danfon anrhegion i anwyliaid neu drefnu blodau er enghraifft ar gyfer pen-blwydd priodas, a’r cyfan yn cael ei wneud gan Gymdeithas Gynorthwyol y Merched Abertawe.
Mae adroddiad blynyddol Gymdeithas Gynorthwyol y Merched ar gyfer 1944 yn rhoi blas o’u gweithgareddau.
“Roedd bron y cyfan o’r gwaith yn waith rhyfel. Hyd at ddiwedd 1944, gwnaethom ddyletswydd ar 6 chaban bwyd sefydlog a 5 caban bwyd symudol. Oherwydd symudiad milwyr mae Twyni Crymlyn bellach ar gau.
Cynllun Rhoddion i’r Cartref – 100 tusw o flodau wedi’u danfon ynghyd â cheisiadau eraill fel doli, tedi bêr, recordiau gramoffon a thocynnau ar gyfer y pantomeim.
Diddanu milwyr clwyfedig yn y YMCA canolog a £800 a godwyd ac a anfonwyd i Gaerdydd ar gyfer gwaith tramor.
Roedd yn waith caled iawn ond rwy’n gwybod ein bod wedi cael llawer o bleser o wybod ein bod wedi rhoi rhywfaint o help a chysur i’r rheini yn y gwasanaethau sy’n barod i aberthu popeth i ni”
Rôl bwysig arall a gyflawnwyd gan y YMCA yn rhyngwladol oedd lles Carcharorion Rhyfel (POW) a gadwyd yn garcharorion yn yr Almaen a lleoliadau eraill. Darparwyd dyddiadur John Healey gan y YMCA yn Sweden. Roedd y gwaith a wnaed yn debyg i’r Groes Goch. Roedd Sweden yn wlad niwtral yn ystod yr Ail Ryfel Byd, felly byddai YMCA Sweden wedi cael caniatâd i gefnogi carcharorion rhyfel Prydain mewn gwersylloedd.
Llyfr cofnodion ar gyfer Cymdeithas Gynorthwyol y Merched ym mis Rhagfyr 1945 sy’n cofnodi bod mab Mrs Elliot Seager, yr adroddwyd ei fod goll, mewn gwirionedd mewn gwersyll carcharorion rhyfel yn yr Almaen, ac roedd newyddion amdano wedi dod drwy’r YMCA.
Yn dilyn diwedd y rhyfel, newidiodd y gwaith yn gyflym i’r ailadeiladu. Rhoddwyd rhodd er enghraifft tuag at ailadeiladu YMCA Rangoon yn Byrma.
Roedd cymodiad hefyd yn rhan o’r agenda, ac erbyn 1948 roedd grŵp o staff YMCA newydd o’r Almaen yn YMCA Abertawe ar daith astudio.
Bu Mr D L Davies a oedd yn rhedeg y cabanau bwyd (gweler blog 7) yn ymwneud yn ddiweddarach ag ailsefydlu ffoaduriaid. Gan weithredu ar ran Cyngor y Byd y YMCA yng Ngenefa, trefnodd i 5,000 o ffoaduriaid gael eu lleoli yng Nghanada.
Nid yr YMCA, wrth gwrs, oedd yr unig gorff a oedd yn codi arian ac yn cefnogi milwyr rheng flaen drwy gabanau bwyd symudol. Ar ôl y rhyfel ymwelodd Mr Davies hefyd â phencadlys y Cadfridog Montgomery yn Fontainbleau. Y tu allan i’r pencadlys roedd caban bwyd symudol a oedd yn dal i gael ei ddefnyddio ac a roddwyd gan bobl Casllwchwr. Mae’n debyg bod y staff wrth eu bodd yn dysgu o’r diwedd sut i ynganu enw’r ardal, a darganfod lle’r oedd Casllwchwr wedi’i leoli mewn gwirionedd.