Casgliad Amgueddfa Abertawe
Ffotograff, du a gwyn. Ffotograff o ddiffoddwyr tân yn defnyddio pibellau dŵr i geisio diffodd tân a achoswyd gan fomiau tân Almaenig a syrthiodd ar siop Ben Evans yn Abertawe yn ystod Blitz Tair Noson 1941. Mae’r olygfa yn y llun yn dangos diffoddwyr tân yn dofi’r tân o Sgwâr y Castell. Yr adeiladau uchel yn y cefndir yw Burtons, David Evans a Castle Cafe Kardomah, y cafodd pob un ohonynt eu difrodi gan fomiau a’u dymchwel wedi hynny gan fod yr adeiladau’n beryglus. Mae ‘caban te’ y YMCA i’w weld ar waelod y llun ac mae’n debyg bod y caban bwyd symudol hwn yn darparu bwyd i weithwyr.
Er bod cryn dipyn o aelodau’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd llawer o aelodau hŷn a Chymdeithas Gynorthwyol y Merched YMCA Abertawe yn gwasanaethu gartref. Roedd arian yn cael ei godi i gefnogi milwyr a oedd ar flaen y gad nid gyda chytiau sefydlog fel yn y Rhyfel Byd Cyntaf ond gyda faniau teithiol a oedd yn gweini lluniaeth ac yn cynnig deunydd darllen a deunydd ysgrifennu llythyrau i’w hanfon adref.
Wrth i’r flwyddyn 1939 fynd yn ei blaen a bod rhyfel yn ymddangos yn fwy tebygol, roedd Cyngor Cenedlaethol YMCA Cymru yn brysur yn gosod pebyll ar gyfer hamdden a lluniaeth mewn gwersylloedd hyfforddi amrywiol ledled Cymru. Yn dilyn y datganiad o ryfel ym mis Medi, roedd llawer o brif swyddogion yn gofyn am gymorth y YMCA a sefydlwyd dau ar bymtheg arall yn ystod yr wythnosau cyntaf yn dilyn y datganiad o ryfel. Sefydlwyd Pwyllgor Argyfwng Rhyfel a chafodd pob pwyllgor sefydlog arall ei atal. Erbyn 1940 roedd yn amlwg y byddai angen adeiladau parhaol yn lle’r adeiladau dros dro ar gost gyfartalog amcangyfrifedig o dair i bedair mil o bunnoedd yr un.
Roedd hefyd yn amlwg y byddai angen lluniaeth a llety ar gyfer milwyr teithiol yn y prif orsafoedd rheilffordd amddiffyn a chabanau bwyd symudol ar gyfer y rheini mewn unedau mwy diarffordd fel balŵns amddiffyn a magnelfeydd gwrthawyrennol.
Byddai’r cabanau bwyd symudol hefyd yn cael eu defnyddio i gefnogi trefi yr ymosodwyd arnynt gan awyrennau bomio. Yn ystod y blitz tair noson ar Abertawe, cefnogwyd cabanau bwyd symudol y YMCA gan sawl un arall gan gynnwys un o Borthcawl a chwech o Gaerdydd a oedd wedi cyrraedd erbyn 2.45am yn y bore.
Roedd adroddiad y Rheolwr Rhagofalon Cyrch Awyr i’r cyngor ar y Blitz – 19 Mawrth 1941 yn dweud:
“Mae’r cabanau bwyd symudol hefyd yn dod i mewn, gan fy mod wedi dweud wrthych am helpu… llwyddodd trefnydd y WVS i ddefnyddio’r gegin yn Neuadd y Dref lle paratowyd a llwythwyd llawer o fwyd i’r cabanau bwyd symudol ar er mwyn dosbarthu bwyd o amgylch y Fwrdeistref, a gwnaeth y YMCA gymwynas debyg”.
Mewn sawl llun o Abertawe yn y blitz ym mis Chwefror, gallwch weld caban bwyd y YMCA yn y llun.
Roedd gan YMCA Abertawe sawl caban symudol i wasanaethu milwyr ar falŵns amddiffyn gwrthawyrennol, magnelfeydd gwrthawyrennol a gwersylloedd milwrol a oedd wedi’u gwasgaru o amgylch Abertawe.
Gwirfoddolodd Aelod o bwyllgor YMCA Abertawe, Mr D L Davies, i oruchwylio holl gabanau bwyd y YMCA yn ardal Abertawe, byddai hyn yn cynnwys y rheini a ddarparwyd gan Abertawe a thrwy’r corff ymbarél cenedlaethol. Roedd Mr Davies yn berchen ar siop ddillad ar Gower St (Ffordd y Brenin erbyn hyn) a gafodd ei ddinistrio yn y Blitz.
Yn Abertawe, yn ogystal â’r cabanau bwyd symudol, roedd cabanau bwyd a chyfleusterau hamdden yn Fairwood, Twyni Crymlyn, Gorsaf y Stryd Fawr a’r Mwmbwls a chaban bwyd a llety yn y prif adeilad, clwb y lluoedd arfog ar Alexandria Road a Chlwb Swyddogion ar Gore Terrace. Gwnaed y rhan fwyaf o’r gwaith cynnal a’r gweithgarwch gan Gymdeithas Gynorthwyol y Merched a oedd hefyd yn darparu gwasanaethau eraill gan gynnwys cwrdd â phob trên a gyrhaeddodd gyda milwyr clwyfedig yn Abertawe a rhoi parsel i bob un.
Roedd angen codi arian hefyd ar gyfer cyfleusterau a chabanau bwyd symudol ar y gwahanol ffryntiau. Cyfrannodd Abertawe yr ail gyfanswm uchaf yng Nghymru, sef swm o £5,000. Roedd y rhan fwyaf o’r gwaith yn cael ei wneud gan
Gymdeithas Gynorthwyol y Merched.
Ar 3 Mehefin 1940, rhoddodd L S Jenkins adroddiad ar waith yr wythnos diwethaf pan gafodd nifer o ffoaduriaid luniaeth ac yna’n hwyr un noson daeth llond trên o ddynion o Fyddinoedd Ymgyrchol Prydain i mewn i’r orsaf, yn flinedig ac yn lluddedig, yn syth o Dunkirk. Yn y cyfarfod nesaf, adroddwyd bod 1,778 o gwpaneidiau o de wedi’u gweini rhwng 16 a 22 Mehefin. Gweinwyd y nifer mwyaf o gwpaneidiau o de, sef 462, ar 13 Mehefin. Roedd trefniadau hefyd wedi’u gwneud yn Ysgoldy Ebenezer lle’r oedd wyth gwely bellach ar gyfer milwyr nad oeddent yn gallu adael oherwydd trenau hwyr.
Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Gynorthwyol y Merched ar gyfer 1940, dywedodd Miss Dillwyn Llewelyn y llywydd,
“Ers ein cyfarfod blynyddol diwethaf, mae cwmpas Cymdeithas Gynorthwyol y Merched wedi’i ehangu’n fawr wrth wneud gwaith ffreutur ac mae’r ymdrechion hyn wedi bod yn fodd i gynyddu ein haelodaeth yn sylweddol, diolch i’r menywod niferus sydd wedi dod ymlaen i roi eu gwasanaethau’n ddi-baid i waith yr YMCA yn y swydd hon. Efallai y bydd o ddiddordeb i rai ohonoch wybod fod gennym y fraint o fod y Gymdeithas Gynorthwyol y Merched y YMCA hynaf yn y wlad ac yn ffodus, mae gennym sawl aelod a wnaeth waith rhyfel tebyg 25 mlynedd yn ôl sy’n dal i fod yn weithgar heddiw”
Amlinellodd adroddiad y Cadeirydd yn nes ymlaen y gwaith a wnaed gyda’r cabanau bwyd ac yna aiff ymlaen i ddweud:
“Ar ddechrau mis Medi, mae pob un ohonoch yn gwybod beth ddigwyddodd yn yr orsaf, roedd ein caban bwyd ar gau am 12 diwrnod ond nid anghofiwn y merched hynny a oedd ar ddyletswydd ar noson 1 Medi ac a ddioddefodd galedi’r cyrch awyr hwnnw a’r merched a ddaeth yno i gyflawni eu dyletswyddau am 7.30am y bore canlynol”.
Roedd cadeirydd Cymdeithas Gynorthwyol y Merched mewn gwirionedd yn dweud rhy ychydig am eu gwaith, a oedd yn nodweddiadol ar y pryd. Ar 1 Medi 1940 cafwyd y cyrch mawr cyntaf ar Abertawe a chafodd Gorsaf y Stryd Fawr ei tharo.
Roedd y menywod ar ddyletswydd y noson honno yn ffodus i beidio â chael eu lladd na’u hanafu’n ddifrifol.