Casgliad Amgueddfa Abertawe
Llun a cherdyn post du a gwyn yn dangos golygfa fewnol o un o’r wardiau yn YMCA newydd Abertawe, tua 1918. Mae nyrsys a chleifion i’w gweld yn glir. Print papur gelatin.
Mae’r llun yn dangos y gampfa, (Dojo erbyn hyn) sydd uwchben Theatr Neuadd Llewelyn. Agorodd yr adeilad newydd ym mis Hydref 1913 ac o fewn blwyddyn dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae nifer o luniau o gleifion a nyrsys yn yr ysbyty, a dynnwyd gan Chapman, ffotograffydd y Stryd Fawr. Mae’n ymddangos bod rhai o’i ferched yn wirfoddolwyr y Groes Goch a bod ei fab, a oedd yn gwasanaethu yn y fyddin, yn aelod o’r YMCA.
Mae’r llyfr ardderchog Swansea in the Great War gan Bernard Lewis yn cynnwys pennod fanwl ar y ddarpariaeth feddygol yn Abertawe ac mae’n cynnwys ffotograff arall gan Chapman o’r staff a’r cleifion ar do yr adeilad.
Yn dilyn cychwyniad y rhyfel, dechreuodd Is-adran y Groes Goch Abertawe chwilio am lety addas i’w droi’n ysbytai. Yn gynnar yn y cyfnod chwilio ym mis Hydref 1914, edrychwyd ar Neuadd Eglwys Sgeti a Neuadd Llewelyn (theatr y YMCA).
Roedd yr anafiadau trwm a ddioddefwyd gan Fyddin Ymgyrchol Prydain ym misoedd cynnar y rhyfel wedi cyflymu’r ymdrechion i ddod o hyd i eiddo addas gan y byddai angen ysbytai yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Roedd hefyd yn dod yn amlwg y byddai angen mwy na thair Uned Wirfoddol a Gynorthwyir y Groes Goch (VAD).
Roedd VAD 88 yn Neuadd Llewellyn, a derbyniwyd y cleifion cyntaf ar 3 Rhagfyr 1914. Gyda nifer cynyddol o anafusion, agorwyd Parc Wern hefyd ym 1915.
Parhaodd y Groes Goch i chwilio am adeilad sengl addas wrth i nifer yr anafusion gynyddu. Yn y cyfamser, gosodwyd deg gwely arall yn yr YMCA.
Penodwyd pwyllgor arbennig i ystyried awgrym gan Mrs Elswoth o’r Groes Goch y gellid rhedeg ysbyty o wyth deg o welyau pe bai’r YMCA cyfan yn cael ei feddiannu. Fodd bynnag, gan fod Parc Wern wedi agor yn ddiweddar, rhoddwyd y prosiect i feddiannu’r YMCA cyfan i’r ochr.
Fodd bynnag, erbyn dechrau 1917, heb unrhyw ddiwedd ar y rhyfel mewn golwg, penderfynwyd meddiannu’r adeilad yn gyfan gwbl. Ym mis Mai 1917 roedd yr ysbyty’n gwbl barod gyda 140 o welyau. Flwyddyn yn ddiweddarach roedd wedi derbyn cyfanswm o 658 o gleifion o’i gymharu â 308 yn y ddwy flynedd flaenorol.
Symudodd yr YMCA allan o’r adeilad ac i lawr St Helen’s Road i Eglwys St Andrews, sef Mosg Abertawe heddiw.
Yn ystod y 4 blynedd yr oedd ar agor, triniwyd 1443 o gleifion yno. Roedd hyn yn cynnwys 32 o oroeswyr y llong ysbyty Rewa, a gyrhaeddodd Abertawe ar ôl cael ei thorpido ym Môr Hafren.
Un o’r nyrsys a oedd yn gweithio yn ysbyty’r YMCA oedd Mary Morgan, Corfield gynt. Cynhaliwyd cyfweliad hanes llafar gyda hi yn y 1980au ac mae’r tâp yn rhan o Gasgliad Amgueddfa Abertawe (cyfweliad hanes llafar SM 1991.11.1.)
Mae’n disgrifio sut y gwnaeth yr YMCA chware rôl gymorth bwysig yn ystod y rhyfel, gan roi bwyd a diod i filwyr yn ogystal â phapur ac amlenni ar gyfer ysgrifennu. Hyfforddodd fel nyrs ac yna aeth i weithio yn yr YMCA, lle’r oedd y sifftiau rhwng 6am a 2pm ac yna 6pm tan 10pm. Trosglwyddwyd y rhan fwyaf o’r anafusion ar y môr i Gaerdydd ac yna i Abertawe. Cofiodd Mary fod cleifion yn cyrraedd gydag anafiadau ofnadwy. Er gwaethaf gweld yr holl anafiadau ofnadwy, roedd Mary’n mwynhau gweithio fel nyrs a byddai wedi bod wrth ei bodd yn dilyn gyrfa nyrsio. Fodd bynnag, rhoddodd ei thad ddiwedd ar ei gyrfa nyrsio cyn gynted ag y daeth y rhyfel i ben.
Ni ddefnyddiwyd Ysbyty’r YMCA i ofalu am y clwyfedig ar draed neu at ddibenion gwellhad. Mae’n eithaf rhyfeddol felly mai dim ond un cofnod sydd o glaf yn marw yno. Mae ail anafedig a fu farw yn anhysbys, ond roedd yn ddyn lleol ac felly’n cael mynd adref. Y claf a fu farw yn yr ysbyty oedd yr Is-gorpral Gordon Rankin Inglis, dyn o Awstralia a anafwyd yn Gallipoli.
Ar ddiwedd mis Mawrth 1919, caewyd yr ysbyty a rhoddwyd yr adeilad yn ôl i’r YMCA. Nid oedd yn ddiwedd ar y berthynas gan fod y Groes Goch yn rhentu ystafell glwb yn yr adeilad, mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol y Nyrsys (RCN). Parhaodd y trefniant hwn tan ganol y 1930au, pan gwnaethant rentu ystafell yn 122 Walter Road oherwydd y trefniadau gwresogi anfoddhaol yn yr YMCA.