Casgliad Amgueddfa Abertawe
Llyfr, inc ar bapur, clawr lledr gwyrdd tywyll gyda’r gair ‘Album’ mewn llythrennau aur. Llyfr llofnodion o’r Ail Ryfel Byd a oedd yn perthyn i Esther Florence Davies (a elwir yn ‘Hettie’) a fu’n gweithio fel nyrs ‘VAD’ (Uned Wirfoddol a Gynorthwyir). Pan ddechreuodd hi wirfoddoli nyrsio, byddai’n bwydo ac yn golchi’r cleifion, ac yn y pen draw ddaeth yn gogydd yn y gegin gydag 88fed Uned Ysbyty’r Groes Goch yn adeilad yr YMCA, St Helens Road, Abertawe yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf o 1916-1919. Mae’r arysgrif ar y dudalen flaen yn darllen ‘Esther Florence Davies, Llwyn Helyg, (Sketty) Swansea, 1916.’ Yn yr albwm llofnodion bach hwn mae ‘Hettie’ wedi casglu negeseuon, cerddi a darluniau gan y milwyr a oedd yn ysbyty YMCA Abertawe. Ar dudalen gyntaf y llyfr mae cerdd a ysgrifennwyd â llaw gan ‘Hettie’, sef ‘My Song’, sy’n ymwneud â’i chariad at ganu. Ysgrifennodd ei merch, y rhoddwr, ‘Roedd gan fy mam lais contralto gwych a byddai’n canu i’r milwyr fel rhan o gôr. Byddai hyn yn esbonio’r dudalen gyntaf yn yr albwm.’
Rhoddwyd y llyfr llofnodion i’r amgueddfa’n weddol ddiweddar ac mae ymchwil i’r rheini a’i llofnododd yn parhau.
Erbyn mis Mai 1917 roedd y Groes Goch wedi meddiannu’r adeilad cyfan. Roedd YMCA Abertawe’n ymwneud ag amrywiaeth o rolau cymorth fel darparu ffreuturau i filwyr, yn gyntaf yn yr adeilad ac yna o Eglwys St Andrews. Roedd ffreuturau hefyd yn Noc y Brenin a Gorsaf y Stryd Fawr ar gyfer milwyr a oedd ar daith. Fel pob YMCA, y brif rôl oedd cefnogi milwyr rheng flaen drwy ddarparu cytiau YMCA yn agos at y rheng flaen. Byddai arian yn cael ei godi a’i anfon at y corff cenedlaethol i’w ddosbarthu.
Roedd nifer hefyd yn gwirfoddoli yn yr ysbytai. Roedd Uned Gynorthwyol y Menywod YMCA Abertawe yn cymryd rhan weithredol ym mhob un o’r uchod. Roeddent hefyd yn cymryd rhan weithredol wrth ddarparu cymorth yn y gwahanol ysbytai yn Abertawe gan gynnwys trefnu adloniant. Mae’n bosib bod Esther, os nad aelod, yn ferch i aelod o’r uned gynorthwyol neu rywun arall a oedd yn ymwneud â’r YMCA.
Mae nifer o gleifion wedi llofnodi’r llyfr. Mae rhai wedi llofnodi gyda manylion byr yn unig fel rhif a chatrawd, ac mae eraill wedi cynnwys cerddi a darluniau.
Mae enghraifft ar dudalen saith o’r albwm yn dangos bod milwr a anafwyd wedi ysgrifennu ei enw, ei rif, ei reng a’i gatrawd, sef Preifat J. Coleshill, 14684, 8fed, Catrawd Dwyrain Surrey
.
Mae’n ysgrifennu ei fod wedi anafu ei ysgwydd chwith drwy ymladd ger Montauban, 1 Gorffennaf, 1916. Mae’r dudalen wedi’i dyddio ‘1 Ionawr 1917, YMCA.’
Anafwyd y Preifat Coleshill ar ddiwrnod cyntaf Brwydr y Somme, Gogledd Ffrainc.
Gall fod yn anodd meddwl am nifer y bobl a anafwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Collodd y Fyddin Brydeinig ychydig dan 20,000, a laddwyd ar 1 Gorffennaf 1916, diwrnod cyntaf Brwydr y Somme. Mae 20,000 gyfwerth â Stadiwm Liberty llawn. Roedd Preifat Coleshill yn un o’r 40,000 a anafwyd ar 1 Gorffennaf.
Byddai Brwydr y Somme yn parhau am sawl mis. Byddai Adran Cymru, gan gynnwys Bataliwn Abertawe, yn ymuno â’r frwydr sawl diwrnod yn ddiweddarach gan geisio meddiannu Coed Mametz, unwaith eto gyda nifer trwm o anafusion.
Byddai rhai o’r rheini a anafwyd ac a gafodd eu trin yn ysbyty’r YMCA wedi cael eu rhyddhau, ond mae’n debyg eu bod wedi dychwelyd i ddyletswydd weithredol. Felly, mae’n anochel y byddai rhai’n gwneud yr aberth eithaf yn ddiweddarach.
Llofnododd Preifat Alexander John Bean o Dofr y llyfr ar 15 Rhagfyr 1916, gan nodi “cefais fy anafu ar 1 Medi 1916 yn Delville Wood, 3ydd Bataliwn, y Buffs”
Bu farw yn 20 oed yn Passchendaele ym mis Hydref 1917.
Llofnododd y Cloddiwr, William Darlington 145640, “212 Field Coy Royal Engineers, wedi fy anafu yn y clun chwith yn High Wood ar y Somme”.
Mae’r ffurflen Anafusion yn dangos ei fod wedi cael ei dderbyn i Ysbyty’r Groes Goch, Abertawe ar 23 Awst 1916 a’i ryddhau ar 23 Tachwedd 1916. Cafodd ei ladd ar 24 Tachwedd 1917.
Mae rhai o’r cofnodion yn llawer mwy manwl ac yn cynnwys cerddi a brasluniau.
Ysgrifennodd Preifat Burton o’r Corfflu Drylliau Peiriannol, “Wedi fy anafu am y 4ydd tro ar y Somme, 25 Mawrth 1918. Gyda phob dymuniad da i Nyrs Davies”, ynghyd â braslun o aderyn a’r gerdd ganlynol.
The Gunner smiled as his breachblock closed,
His arm was steady, his grip was tight;
The Gunner smiled, and his face beamed bright
In the twilight flush of an autumn night.
Silent columns of moving men
Moved to a point in a neighbouring glen,
And the Gunner smiled.
The Gunner smiled as his gun spoke loud,
With deafening crash and darkening cloud;
The Gunner smiled as the darkness fell,
Smiled at the wreck of shot and shell.
The Gunner smiled with firm fixed eye
In the field of death, where brave men die.
Then he sank down slowly beside his gun,
And smiled, though his cause was nearly run;
Though his heart beat faint in his wounded breast,
The Gunner smiled as he went Out West.
Llofnododd Preifat J C Dennehy o Awstralia ei enw ynghyd â’r gerdd fer ganlynol.
“Here’s to corn beef when your hungry
Whisky when your dry
Five pounds when busted
Heaven when you die”
Lladdwyd Preifat Dennehy hefyd bum mis yn ddiweddarach ym mis Hydref 1916.