Ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon, bydd Amgueddfa Abertawe’n edrych yn ôl ar yr Ail Ryfel Byd. Gorsafwyd nifer o Americanwyr yn Abertawe a’r cyffiniau. Byddwn yn ystyried tri Americanwr Du a oedd yn Abertawe am gyfnod byr yn unig ond a fyddai’n dod yn hanesyddol arwyddocaol.
Hugh Nathaniel Mulzac (1886 – 1971)
Hugh Mulzac oedd yr Americanwr Affricanaidd cyntaf i dderbyn Tystysgrif Capten yr Unol Daleithiau. Dyma’r cymhwyster sydd ei angen i fod yn gapten llong.
Ganed Hugh Mulzac ar Ynys St Vincent a’r Grenadines, India’r Gorllewin ym 1886.
Yn dilyn yr ysgol uwchradd, dechreuodd weithio ar longau masnachol Prydeinig ac yna fe’i hanfonwyd i’r Coleg Hyfforddi Morwrol yma yn Abertawe, lle enillodd ei dystysgrif Mêt. Ym 1918 ymfudodd i’r Unol Daleithiau lle cwblhaodd ei gymhwyster fel Capten. I ddechrau, bu’n gwasanaethu fel swyddog ar yr SS Yarmouth, un o longau Black Star Line.
Sefydlwyd Black Star Line gan Marcus Carvey ym 1919. Roedd Marcus Carvey hefyd yn arwain Y Gymdeithas Fyd-eang er budd Dyrchafu Negroaid. Y nod oedd darparu swyddi nad oeddent yn ecsbloetio’r duon.
Am ryw reswm, cwerylodd Mulzac â Marcus Carvey a gadawodd ym 1922. Oherwydd gwahaniaethu ar sail hil, yr unig waith y gallai ddod o hyd iddo oedd swydd stiward, er gwaethaf ei sgiliau, ei gymwysterau a’i brofiad. Parhaodd y sefyllfa hon am yr ugain mlynedd nesaf.
Fodd bynnag, ym 1942 cynigiwyd rheolaeth y llong rhyddid, SS Booker T. Washington iddo, y llong rhyddid gyntaf i’w henwi ar ôl Americanwr Affricanaidd. Roedd Booker T. Washington yn addysgwr, yn areithydd ac yn gynghorydd nodedig i nifer o Arlywyddion yr UD.
Roedd Mulzac yn ddyn o egwyddor. Pan gynigiodd Comisiwn Morol yr Unol Daleithiau’r Gapteiniaeth iddo, gwrthododd i ddechrau gan fod y criw yn un lle gwahanwyd y duon a’r gwynion. Dywedodd ar y pryd na fyddai dan unrhyw amgylchiadau’n rheoli “Jim Crow”. (Term bratiaith ar gyfer cyfreithiau gwahanu’r Unol Daleithiau yw “Jim Crow”). Ildiodd Comisiwn Morol yr Unol Daleithiau, a Mulzac oedd y capten du cyntaf i arwain criw integredig.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cludodd yr SS Booker T. Washington 18,000 o filwyr a chyflenwadau i Ewrop. Mae’n debygol y byddai Mulzac, ar ryw adeg, wedi ymweld ag Abertawe unwaith eto gan ei bod yn un o’r porthladdoedd allweddol ar gyfer mewnforio cyflenwadau o’r Unol Daleithiau a chyflenwi troedle Normandi.
Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, cafodd Mulzac drafferth unwaith eto yn ceisio sicrhau swydd yn rheoli llong fasnachol breifat. Nid yn unig oherwydd gwahaniaethu ond hefyd yn rhannol oherwydd ei wleidyddiaeth. Ymunodd Mulzac â Phlaid Lafur America, a safodd drosti hefyd – roedd yn blaid yr oedd llawer o Americanwyr yn ei hystyried yn sefydliad comiwnyddol. Yn ystod anterth y Rhyfel Oer a chyfnod McCarthy, cafodd ei gosbrestru. Dirymwyd ei bapurau a’i drwyddedau llongwr hefyd gan Lywodraeth yr UD. Aeth Mulzac â’r Llywodraeth i’r llys ac o’r diwedd cafodd ei drwyddedau’n ôl ym 1960.
Byddai un o’i ferched hefyd yn ymgymryd â gwleidyddiaeth. Una Mulzac oedd sylfaenydd siop lyfrau flaenllaw yn Harlem sy’n gwerthu llyfrau sy’n ymwneud â gwleidyddiaeth a Grym y Duon.
Bu farw Hugh Mulzac yn Efrog Newydd ym 1971, yn 84 oed.