Ar gyfer Mis Hanes Pobl Dduon, bydd Amgueddfa Abertawe’n edrych yn ôl ar yr Ail Ryfel Byd. Gorsafwyd nifer o Americanwyr yn Abertawe a’r cyffiniau. Byddwn yn ystyried tri Americanwr Du a oedd yn Abertawe am gyfnod byr yn unig ond a fyddai’n dod yn hanesyddol arwyddocaol.
Ralph Waldo Ellison (1913 – 1994)
Ym 1953, enillodd Ralph Ellison Wobr Lyfrau Genedlaethol yr Unol Daleithiau am ffuglen ar gyfer ei nofel, Invisible Man, un o’r testunau allweddol yn niwylliant Affricanaidd Americanaidd. Mae’r llyfr yn ymwneud ag estroneiddiad bod yn ddyn Du yn America ar ôl y rhyfel.
Cafodd ei eni ym 1913 yn Oklahoma. Ym 1933 fe’i derbyniwyd i’r Sefydliad Tuskegee mawr ei fri, y brifysgol i bobl Dduon a sefydlwyd gan Booker T. Washington, yr enw a roddwyd i’r llong rhyddid yr oedd High Mulzac yn gapten arni.
Ym 1936 symudodd i Efrog Newydd a bu’n byw yn YCMA Harlem ar 135th Street, canolfan y Diwylliant Affricanaidd Americanaidd yn ystod y cyfnod hwn.
Gorsafwyd Ralph Ellison yn Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ac yntau’n gogydd gyda’r llynges fasnachol, bu’n gwasanaethu ar sawl llong rhyddid a oedd yn cyflenwi troedle Normandi a’r frwydr ddilynol dros Ewrop.
Ysgrifennodd Ellison dair stori fer wedi’u lleoli yn Abertawe yn ystod 1944, sef In a Strange Country, The Red Cross at Morriston Hospital ac A Storm of Blizzard Proportions. Ni chyhoeddwyd y ddwy olaf fyth ond mae In a Strange Country yn ymddangos yn y llyfr Flying Home and Other Stories, a gyhoeddwyd ym 1998.
Mae rhai academyddion yn credu y gall fod y syniad ar gyfer The Invisible Man yn tarddu o In a Strange Country. Yn y stori fer (sydd o bosib yn seiliedig ar ddigwyddiad go iawn yn Abertawe), mae’r cymeriad o’r enw Parker, sy’n Ddu, yn dod i’r lan yn Abertawe ac yn fuan ar ôl hynny mae tri milwr gwyn o’r Unol Daleithiau’n ymosod arno. Mae Parker yn cael ei achub gan bobl leol, sy’n mynd ag ef i glwb lle mae côr yn ymarfer. Mae’r côr yn canu Anthem Genedlaethol Cymru, Anthem Genedlaethol Prydain, yr Internationale a chan fod gwestai Americanaidd yn bresennol, The Star Spangled Banner.
Mae Parker yn llawn gwrthddywediadau emosiynol, yn enwedig pan maent yn canu The Star Spangled Banner – mae e’n ddyn Du sy’n ymladd dros ei wlad ond yn cael ei drin fel dinesydd eilradd, y mae’n debygol na fyddai ganddo hawl i ymweld â chlwb aelodau tebyg yn ôl yn yr Unol Daleithiau.
Mae’r stori fer yn archwilio rhai o’r themâu a’i helpodd i ennill Gwobr Llyfrau Cenedlaethol yr Unol Daleithiau gydag Invisible Man yn ddiweddarach.
Cafodd Ralph Ellison ei dderbyn yn y pen draw i’r Academi Celfyddydau a Llythyrau Americanaidd a derbyniodd ddwy Wobr Lywyddol, un gan Lyndon Johnson ac un gan Ronald Reagan.
Bu farw Ralph Ellison ym 1994 yn 81 oed
I gael rhagor o wybodaeth am Ralph Ellison, mae pennod ragorol yn Black Skin, Blue Books – African Americans in Wales 1845 – 1945. Gan Daniel G Williams, Prifysgol Abertawe. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru. 2012
Ôl-nodyn
Wrth chwilio am luniau i’w postio gyda’r blogiau hyn, roeddwn yn ymwybodol bod gan yr amgueddfa ffotograffau a dynnwyd gan Great Western o longau a chyflenwadau’n cyrraedd dociau Abertawe o’r Unol Daleithiau.
Wrth edrych ar y ddau albwm, des i o hyd i luniau o grombil cargo’r Sun Yat Sen. Mae’r testun gyda’r ffotograffau’n esbonio bod y llong i fod i deithio i Lerpwl ond cafodd ei dargyfeirio i Abertawe. Roedd y cargo’n cynnwys 1,520 tunnell o ddur, 278 o gerbydau, 100 o fadau glanio a 4,927 tunnell o danwydd awyrennau mewn barilau. Mae’n ymddangos bod y barilau o danwydd wedi’u difrodi yn ystod yr hediad. Dyna oedd y rheswm dros y dargyfeiriad, sef gwneud trefniadau arbennig ar gyfer ymdrin â’r tanwydd awyrennau yn Abertawe.
Wrth chwilio am Great Western, sylweddolais hefyd fod gan yr amgueddfa lyfr sy’n nodi’r holl laniadau ac ymadawiadau rhwng 1940 a 1945. Roedd y Sun Yat Sen yn rhan o osgorddlynges HX 273 a chyrhaeddodd Abertawe ar 16 Ionawr 1944. Gadawodd ar 5 Chwefror i hwylio i Belfast er mwyn ymuno â gosgorddlynges ON 203, a oedd yn dychwelyd i Efrog Newydd.
Mae ffynonellau blaenorol yn awgrymu bod Ralph Ellison yn hwylio yn nôl ac ymlaen rhwng Abertawe a’r Unol Daleithiau’n rheolaidd. Mae ffynonellau’n nodi ei fod wedi gwasanaethu ar fwy nag un llong rhyddid, ond enwyd ei long gyntaf, y Sun Yat Sen, yn unig. Glaniodd y llong hon yn Abertawe unwaith yn unig. Byddai Ralph Ellison wedi bod yno am un diwrnod ar hugain, ac wrth gwrs, dyma fyddai ei brofiad cyntaf mewn gwlad arall. Fodd bynnag, pe na ddifrodwyd y tanwydd awyrennau, byddai Ralph Ellison wedi glanio yn Lerpwl a byddai wedi aros am gyfnod byrrach o lawer.
Wrth edrych drwy oddeutu 10,000 o gofnodion o longau’n glanio ac yn gadael Dociau Abertawe ym 1944 a 1945, sylwais hefyd ar rai llongau gyda’r enw Parker. Defnyddiodd Ellison yr enw Parker ar gyfer ei gymeriad yn y stori. Cafodd yr USS Parker, distrywlong ar ddyletswydd gosgordd fel rhan o osgorddlynges yr Iwerydd ym 1943 ac ar ddechrau 1944, a llong rhyddid Theodore Parker, eu henwi ar ôl yr ymgyrchydd diddymwyr enwog a ddyfynnwyd gan Abraham Lincoln a Martin Luther King yn hwyrach. Nid oedd y llongau hyn yn rhan o osgorddlyngesau HX 273 neu ON 203. Dim ond dyfalu ydw i, ond tybed a oedd y llongau hyn yn rhan o osdorddlynges arall gyda’r Sun Yat Sen ac mai dyna’r rheswm dros enw’r cymeriad?
Phil Treseder
Swyddog Dysgu a Chyfranogiad