Ym mis Rhagfyr 2024, cyrhaeddodd tîm rhyngwladol menywod Cymru rowndiau terfynol prif bencampwriaeth am y tro cyntaf. Nid yw pêl-droed i fenywod wedi cael rhwydd hynt. Ar ôl iddi gael hwb yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd ei phoblogrwydd cynyddol yn destun pryder i Gymdeithas Bêl-droed Lloegr, a’i gwaharddodd i bob pwrpas ym 1921 drwy fygwth diarddel clybiau a roddodd ganiatâd i dimau menywod ddefnyddio meysydd a chyfleusterau.
Mae pêl-droed menywod yn dyddio yn ôl yn gynharach na’r Rhyfel Byd Cyntaf ac ar adegau bu cryn wrthwynebiad iddi. Daeth tîm teithiol o’r enw British Ladies’ Football Club i Abertawe ym mis Gorffennaf 1896. Cynhaliwyd gêm yn erbyn tîm dynion (yn ôl pob golwg, y gêm gyntaf o’r fath yn Abertawe erioed), a gorffennodd y sgôr yn gyfartal, 4-4. Fodd bynnag, nid oedd y dorf yn fawr ac ni dderbyniwyd digon o arian i dalu am docynnau teithio aelodau’r tîm i Gaerdydd, eu cyrchfan nesaf.
Llwyddodd y tîm i gyrraedd Caerdydd yn y diwedd, ond cyhoeddwyd y sylwadau canlynol yn y South Wales Daily Post ar 7 Awst.
“So, the British Ladies’ Football Club managed after all to get out of the awkward predicament in which they found themselves on Tuesday and bade Swansea farewell for ever on Thursday. No one could but help sympathise with the poor girls in their sad plight, but at the same time I hope their severe lesson will drive home the conviction that football is not a game for women no more than darning stockings is an occupation for mortals of the masculine gender. The ordinary species of the new woman is almost intolerable, but when females turn out in bloomers on the football field the whole business becomes positively disgusting, and if a slice of bad luck, such as that experienced by the British lady footballers at Swansea, will have the effect of crushing out the practice I shall rejoice exceedingly over it. By-and-by there will be no holding these masculine females”.
Un o’r timau hysbys cynharaf yn Abertawe oedd Baldwins United, a ffurfiwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd aelodau’r tîm yn fenywod a oedd yn gweithio yn y ffatri ffrwydron genedlaethol.
Y fenyw a drefnodd y tîm oedd Nancie Griffith Jones, a oedd yn gweithio fel swyddog lles yn y ffatri. Roedd yn hoff iawn o chwaraeon, gan gynnwys pêl-droed, hoci a pholo dŵr. Yn nes ymlaen yn ei bywyd, dyfarnwyd OBE iddi am ei gwasanaethau i’r sector addysg. Byddai hefyd yn treulio’r Ail Ryfel Byd fel un o garcharorion Japan gan ei bod yn cynnal ysgol yn Singapore ar ddechrau’r rhyfel yn y Môr Tawel.
Mae SM MI 6877.2 yn ffotograff o’r tîm a dynnwyd ar faes San Helen cyn neu ar ôl gêm, yn ôl pob tebyg yn erbyn Casnewydd ym mis Ebrill 1918 i godi arian am y gronfa carcharorion rhyfel. Mae Nancie yn eistedd yn y pedwerydd safle o’r chwith yn y rheng flaen.

Rhoddir cyfenwau aelodau’r tîm ynghyd â llythyren gyntaf. Fodd bynnag, mae rhai o adroddiadau’r papurau newydd yn rhoi enw cyntaf. Felly, mae’n bosib dyfalu enw llawn a chyfeiriad ambell aelod o’r tîm.
Os yw rhywun yn adnabod rhywun fel hynafiad neu’n gwybod am unrhyw un arall yn y tîm ac yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth, a wnewch chi gysylltu ag Amgueddfa Abertawe drwy e-bostio phil.treseder@abertawe.gov.uk
Yr enwau posib a roddir ochr yn ochr â Nancie Griffith Jones yw:
N Dalhgrin
L Quick (capten)
D Wise
D Thomas
E Griffiths
A Davies
G Gower
A Guy
K Roper
M Forrester
Mewn gêm ddiweddarach, crybwyllir E Mountfield.
Mae rhai posibiliadau’n cynnwys:
Enwir y capten yn Lizzie mewn adroddiad papur newydd. O bosib, dyma Lilian Elizabeth Quick, a anwyd ym 1895 yn Wolverhampton ac a oedd yn byw yn Margaret Terrace, St Thomas ym 1911. Os felly, priododd Evan Gordon Davies ym 1924.
Enwir K Roper yn Katie yn y papur newydd. Ganwyd Catherine Roper oddeutu 1900 ac roedd yn byw yn 3 Wandsworth Street gyda’i brawd a’i ewythr.