Yn ein Horiel Astudiaethau Natur, roedd dau ben o deulu’r Bufilod wedi’u gosod ar y wal yr oedd angen gofal a gwaith cadwraeth arnynt. Roedd amser wedi effeithio ar y pennau tacsidermi felly daeth Laura o LR Conservation i Amgueddfa Abertawe i ddarparu’r arbenigedd i’w cadw a’u glanhau.
Mae un ohonynt yn ben Bual Gawr Indiaidd. Dyma’r rhywogaeth fwyaf o’r Bufilod sy’n goroesi a gallant ladd teigrod pan gânt eu herian. Daeth ein pen bual ni o Kolhapur yng ngogledd India ac fe’i rhoddwyd i’r amgueddfa ym 1960. Roedd difrod difrifol i un o gyrn pen y bual, ac roedd angen ei ailosod yn ofalus. Roedd ei lygaid gwydr wedi diflannu ers blynyddoedd lawer.
Byfflo Dŵr yw’r pen arall o deulu’r Bufilod a ddaeth o Kolhapur ar yr un pryd â’r bual. Mae dau fath gwahanol o Fyfflo Dŵr: y gors a’r afon. Nid ydym yn sicr o hyd ynghylch y math o fyfflo dŵr sydd gennym ni. Y ffordd arferol o wahaniaethu rhyngddynt yw maint eu corff ond nid oes modd gwneud hyn gyda phen yn unig. Roedd rhannau o ben ein byfflo wedi crebachu lle’r oedd y llanwad a ddefnyddiwyd gan y tacsidermydd gwreiddiol wedi sychu. Yn ogystal â gwaith atgyweirio, roedd angen glanhau a chaboli’r pennau i’w cadw.
Oherwydd arbenigedd y gwarchodwr, mae’r ddau ben yn lân, mae eu llygaid yn ddisglair a’u cyrn yn loyw. Unwaith y caiff y mowntiau eu gwneud, caiff y ddau ben eu rhoi yn ôl yn yr Oriel Astudiaethau Natur.