Cyflwyniad
Dyma gyfle i’ch plant gwrdd â chymeriad o Oes Fictoria o Nadolig y gorffennol yn Amgueddfa Abertawe. Mae’r sesiynau’n ddifyr ac yn rhyngweithiol iawn, gyda chyfle i chwarae rôl a thrafod eitemau yn ogystal â gwrando ar straeon traddodiadol a dysgu tarddiad arferion y Nadolig.
Lefel cynnydd 1
Ystod oedran darged – Dosbarth Derbyn/Blwyddyn 1
Hyd y sesiwn – 1 awr
Maes Dysgu:
Dyniaethau
Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig:
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio’n annog chwilfrydedd ynghylch y byd, ei orffennol, y presennol a’r dyfodol.
Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn ymgysylltu â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu bodau dynol, ac maent yn gallu ymateb mewn ffordd ystyriol a moesegol.
Sgiliau Trawsgwricwlaidd:
Creadigrwydd a Blaengaredd