Cewch gwrdd â theithiwr amser a chael gwybod rhagor am sut mae agweddau at yr hinsawdd a chadwraeth wedi newid. Archwiliwch yr hinsawdd a chadwraeth fel y’u hystyriwyd yn y gorffennol ac fel y’u hystyrir yn awr. Gallwch drafod ac ymchwilio i wrthrychau sy’n gysylltiedig â’r pynciau sydd i’w cael yn y casgliadau. Bydd y plant yn cwrdd â Thereza Llewelyn o Ystad Penlle’r-gaer yn yr oriel hanes naturiol.
Lefel cynnydd 1
Ystod oedran darged – Dosbarth Derbyn/Blwyddyn 2
Hyd y sesiwn – 1 awr
Maes Dysgu:
Dyniaethau
Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig:
Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio’n annog chwilfrydedd ynghylch y byd, ei orffennol, y presennol a’r dyfodol.
Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn ymgysylltu â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu bodau dynol, ac maent yn gallu ymateb mewn ffordd ystyriol a moesegol.
Sgiliau Trawsgwricwlaidd:
Creadigrwydd a Blaengaredd