Sgyrsiau’r Amgueddfa i Grwpiau Cymunedol
Mae staff Amgueddfa Abertawe’n rhoi sgyrsiau darluniedig am bynciau sydd o ddiddordeb lleol i grwpiau cymunedol yn Abertawe, yn ystod y dydd neu’r hwyr.
Cysylltwch â Phil Treseder i drefnu sgwrs:
01792 653763
or Ebostio Phil
*Yn newydd ar gyfer 2022*
Parhau i Gasglu
Ym 1991, cymerwyd yr amgueddfa drosodd gan Ddinas a Sir Abertawe. Fodd bynnag rydym yn dal i gasglu gwrthrychau heddiw. Mae’r sgwrs hon yn cwmpasu’r pethau rydym yn eu casglu, rhai gwrthrychau eiconig diweddar a sut mae amgueddfa fodern yn gweithredu.
*Yn newydd ar gyfer 2022*
Hanes Abertawe drwy 20 o Wrthrychau
Hanes Abertawe o 300 OC hyd at yr 20fed ganrif, wedi’i ddangos drwy 20 o wrthrychau sy’n rhan o gasgliad yr amgueddfa.
*Yn newydd ar gyfer 2022*
YMCA Abertawe
Dyma un o elusennau hynaf Abertawe sydd wedi goroesi – fe’i sefydlwyd ym 1868 ac mae’n darparu enghraifft hynod ddiddorol o hanes cymdeithasol Abertawe dros y 150 o flynyddoedd diwethaf.
Hanes a Thrysorau Amgueddfa Abertawe
Amgueddfa Abertawe yw’r amgueddfa hynaf yng Nghymru. Mae’r sgwrs yn cwmpasu hanes hynod ddiddorol yr amgueddfa a gwrthrychau enwog yn y casgliad.
Copropolis – Diwydiant yng Nghwm Tawe Isaf
Ar ddiwedd y 18fed ganrif, ystyriwyd mai twristiaeth oedd dyfodol Abertawe. Abertawe fyddai ‘Brighton Cymru’. Yn hytrach, cawsom lysenw arall, ‘Copropolis.’ Mae’r sgwrs hon yn cwmpasu hanes y Chwyldro Diwydiannol yn Abertawe.
Rheilffordd y Mwmbwls
Y rheilffordd hynaf yn y byd i deithwyr.
Morwyr yr Horn Abertawe – Casgliad a Hanes Morol
Ni ddaw’r term ‘Swansea Jack’ o’r ci enwog. Mae’n gysylltiedig â hanes morol cyfoethog Abertawe a sgiliau’r llongwyr a ddeuai â’r mwyn copr o amgylch yr Horn, o Chile.
Blitz Abertawe – Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd
Pam y targedwyd Abertawe? Sut roedd Abertawe’n edrych cyn y blitz, y canlyniadau a’r ailadeiladu.