Edrychwch ar y digwyddiadau a’r arddangosfeydd a gynhaliwyd yn Amgueddfa Abertawe yn y gorffennol.
Edgar Evans – 90 Degrees South
Ganwyd yn Abertawe, roedd yr is-swyddog ‘Taff’ Evans (1876-1912) yn un o feteraniaid alldaith Discovery enwog Scott 1901-1904.
Arddangosfa Elyrch 100
Mae Elyrch 100 yn brosiect ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe ac Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Dinas Abertawe. Mae’n cofnodi profiad cefnogwyr o gefnogi Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, ‘Yr Elyrch’, dros y can mlynedd diwethaf.
Copropolis
Edrych yn ôl ar hanes tanllyd Abertawe yn ystod y blynyddoedd pan ddarparai’r rhan fwyaf o’r copr a ddefnyddid ledled y byd. Mae’r arddangosfa hon yn archwilio tynghedau amrywiol y rhai a fu’n gysylltiedig â’r diwydiant copr yn Abertawe.
Griffith John
Mae’r arddangosfa hon yn archwilio bywyd hynod y Cenhadwr o Abertawe, Griffith John, a aeth i Tsieina ym 1855 gan aros yno am dros 50 mlynedd. Ac yntau’n gymeriad poblogaidd iawn, bu’n teithio’n helaeth yn y wlad lle sefydlodd ysgolion, ysbytai a cholegau.